Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Heddlu Dyfed-Powys, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys swyddogion heddlu ar restr o’r rhai sy’n cael blaenoriaeth wrth dderbyn brechlyn coronafeirws.

Cafodd deiseb yn galw am gynnwys swyddogion heddlu ar y rhestr ei sefydlu’n ddiweddar gan riant i swyddog heddlu a aeth yn sâl ar ôl arestio dyn oedd wedi’i heintio â’r feirws.

Bellach, mae dros 6,000 o lofnodion ar y ddeiseb, ac mae’r alwad wedi derbyn cefnogaeth gan Unsain, yr NPCC a Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr.

“Rhwystredig”

“Fel pob ymatebydd cyntaf arall, ynghyd â staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, mae swyddogion a staff yr heddlu yn peryglu eu bywydau bob dydd er mwyn cadw’r cyhoedd yn ddiogel, ac maent mewn mwy o berygl o ddal a throsglwyddo COVID-19 oherwydd eu lefel uwch o amlygiad gyda’r cyhoedd a diffyg profion rheolaidd,” meddai Dafydd Llywelyn.

“Mae gennym ni sefyllfa ym Mhencadlys yr Heddlu yn Llangynnwr, Caerfyrddin lle rydyn ni’n darparu adnoddau i gefnogi Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i hwyluso proses frechu eu staff sydd wedi’u lleoli yn y pencadlys, sy’n wych.

“Ond rwy’n ei chael hi’n rhwystredig, er ein bod yn rhoi adnoddau ar waith i gyflawni’r broses frechu yn y Pencadlys, ei bod hi dal yn aneglur pryd y bydd y brechiad ar gael inni i’w gyflwyno i’n swyddogion.

“Mae swyddogion a staff yr heddlu yn weithwyr hanfodol, maen nhw mewn cysylltiad wyneb yn wyneb â’r cyhoedd yn ddyddiol, yn delio â sefyllfaoedd anodd a chymhleth, ac o ganlyniad mae’n hanfodol eu bod yn cael eu cynnwys ar y rhestr flaenoriaeth fel ymatebwyr cyntaf eraill.

“Rydw i nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru am rywfaint o eglurder ar yr amserlen gyflwyno, a bod swyddogion a staff yr heddlu yn cael yr un flaenoriaeth â gwasanaethau brys eraill fel bod y cyhoedd yn hyderus eu bod yn ddiogel pan ddônt i gysylltiad â’r Heddlu. ”