Mae Clonc360, gwefan fro Llanbed a’r cylch, wedi cyrraedd carreg filltir wrth gyhoeddi cyfanswm o 1,000 o straeon ar y gwasanaeth lleol.

Cafodd Clonc360 ei sefydlu ym mis Mawrth 2015 fel partneriaeth rhwng y papur bro lleol Clonc a chwmni Golwg.

Y bwriad oedd creu platfform i bobol y fro allu creu a chyhoeddi straeon amlgyfrwng, yn ogystal â derbyn straeon newyddion sy’n addas i’r ardal leol gan wasanaeth newyddion golwg360.

Bellach, mae’r gwasanaeth yn datblygu fel y lle i weld busnesau bach y fro, gyda datblygiad Y Farchnad.

“Mae yna elfen fusneslyd yn perthyn i ni i gyd”

“Mae gwefan Clonc360 yn ymestyn ar y gwaith y mae gwirfoddolwyr Papur Bro Clonc wedi gwneud dros y blynyddoedd drwy hybu Cymreictod yn lleol a thwf yn y nifer o bobl sy’n darllen Cymraeg,” medd Dylan Lewis, cadeirydd Clonc ac un o olygyddion y wefan fro.

“Mae’n wasanaeth unigryw lle gall unrhyw un gyfrannu, a does dim byd tebyg i’w gael yn Saesneg yn yr ardal. Mae’n rhywbeth hollol Gymraeg.

“Mae mor braf hefyd cael adborth gan bobl na fyddai fel arfer yn darllen unrhyw beth Cymraeg.  Mae pobl yn dwli darllen newyddion lleol iawn.

“Mae yna elfen fusneslyd yn perthyn i ni i gyd, ac mae gwefan Clonc360 yn bwydo’r archwaeth honno.”

“Dathlu hunaniaeth unigryw’r ardal”

Mae Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion, a brodor o Lanbed yn dweud na ellir gorbwysleisio cyfraniad Clonc360 at fywyd a chymdeithas ardal Llanbed.

“Mae’r wefan yn fwy na chyfrwng i rannu newyddion – mae’n gyfrwng sy’n dathlu hunaniaeth unigryw’r ardal, mae’n tynnu sylw at straeon na fyddai’n cael eu clywed fel arall, ac mae’n atgyfnerthu’r ymdeimlad o berthyn a chymuned yn lleol sydd wedi bod mor eithriadol o bwysig dros y misoedd diwethaf,” meddai.

“Llongyfarchiadau i Clonc360 a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y wefan fro dros y blynyddoedd diwethaf.

“Ymlaen i’r 1,000 stori nesaf!”

Seremoni wobrwyo

Ddiwedd mis Ionawr, bydd Bro360 yn cynnal Seremoni Wobrwyo, gyda chategorïau’n amrywio o wobrau megis fideo’r flwyddyn i’r stori orau am godi gwên, a bydd panel yn dewis yr enillwyr.

Ond mae Bro360 yn gofyn i’r cyhoedd bleidleisio dros y stori orau ar bob gwefan fro.

Gall pobol bleidleisio trwy weld y rhestrau byrion isod.

Pleidleisio am y straeon gorau ar wefannau Bro360 yn 2020

Cadi Dafydd

Cyfle i bobol leol bleidleisio am eu hoff stori