Mae NFU Cymru yn gwahodd aelodau Sir Feirionnydd i ymuno â Minette Batters, Llywydd yr NFU, yn eu cynhadledd sirol flynyddol eleni.

Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal yn rhithiol nos Fawrth Ionawr 19, a bydd cyfle i glywed am waith diweddaraf yr NFU yn ystod blwyddyn anodd i’r diwydiant ac i’r Deyrnas Unedig.

Bydd Minette Batters yn cael cwmni John Davies, Llywydd NFU Cymru, wrth i hwnnw roi diweddariad i’r aelodau am waith NFU Cymru mewn meysydd megis gadael yr Undeb Ewropeaidd, effaith Covid-19, a’r gefnogaeth fydd ar gael i’r diwydiant amaeth – gan gynnwys trafod Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar amaeth.

“Hoffwn ddiolch i Ms Batters a Mr Davies am gytuno i siarad yn ein cynhadledd eleni,” meddai Rhodri Jones, cadeirydd NFU Cymru Sir Feirionnydd.

“Er ei fod ar ffurf gwahanol i’r arfer, mae’r cyfarfod yn argoeli i fod yn un diddorol ac addysgiadol yng nghwmni’r siaradwyr uchel eu parch hyn.

“Bydd pob aelod sy’n ymuno â’r gynhadledd sirol rithiol yn cael cyfle i ennill taleb gwerth £50 i’w wario mewn siopau.”

Gan fod y gynhadledd, sy’n cael ei noddi gan HSBC UK, yn digwydd yn rhithiol, mae modd i aelodau ledled Cymru ymuno eleni.