Mae staff cynorthwyol sy’n aelodau o undeb UNSAIN am weld ysgolion Cymru yn aros ar gau tan fis Chwefror, gan ohirio dysgu wyneb yn wyneb am weddill mis Ionawr.

Mae’r undeb yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried cau ysgolion nes hanner tymor Chwefror, fel yn Lloegr, gan fod y cynnydd mewn achosion Covid-19 yn rhoi’r cyhoedd mewn perygl.

Ddoe (dydd Llun, Ionawr 4), dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, fod ysgolion yn symud i ddysgu ar-lein nes Ionawr 18, ond mae UNSAIN yn dweud nad yw hynny’n caniatáu digon o amser i wneud yr holl waith paratoi er mwyn sicrhau bod ysgolion yn gallu ailagor yn ddiogel.

Byddai aros ar gau drwy weddill Ionawr yn rhoi amser i Lywodraeth Cymru adolygu’r cyngor iechyd a’r cyngor gwyddonol diweddaraf; yn rhoi amser i ysgolion adolygu eu hasesiadau risg yn seiliedig ar yr amrywiolyn newydd; a rhoi amser i lunio cynllun ar gyfer cyflwyno system brofi mewn ysgolion, yn ôl UNSAIN.

Dywed yr undeb fod cyhoeddiad Kirsty Williams wedi dod yn rhy hwyr ddoe, gan achosi gofid diangen i ddisgyblion, rhieni, a staff ysgolion.

Mae Siân Gwenllian, llefarydd addysg Plaid Cymru, hefyd wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o weithredu’n rhy hwyr ar gau ysgolion.

Roedd UNSAIN wedi bod yn galw am ohirio ailagor ysgolion ers cyn y Nadolig mewn cyfarfodydd a gohebiaeth â Llywodraeth Cymru.

“Angen un cynllun ar gyfer Cymru gyfan”

“Mae hwn yn argyfwng iechyd cyhoeddus, a dylai ysgolion ddysgu disgyblion ar-lein nes o leiaf Chwefror, ag eithrio plant bregus a phlant gweithwyr hanfodol. Rydym angen un cynllun ar gyfer Cymru gyfan, yn hytrach na gadael i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau,” meddai Rosie Lewis, prif swyddog ysgolion Cymru ar gyfer UNSAIN.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gael hyn yn gywir, yn hytrach na drysu a pheryglu rhieni, staff, a chymunedau cyfan.

“Mae’n rhaid iddyn nhw gael sicrwydd y bydden nhw’n saff pan fydd ysgolion yn ailagor.

“Mae hyn yn cynnwys blaenoriaethu staff ysgolion ar gyfer cael eu brechu.

“Ni ddylai’r un aelod o staff ysgolion orfod wynebu perygl difrifol wrth weithio,” mynnodd Rosie Lewis.

“Roedd peidio gwneud y cyhoeddiad tan yn hwyr ddoe yn siomedig, ac mae hyn wedi amharu ar staff ysgolion, teuluoedd a disgyblion.

“Roedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o’r pryderon sydd gan staff cynorthwyol ysgolion, a’r hyn maen nhw’n dymuno ei weld er mwyn sicrhau bod ysgolion yn llefydd saff, ers peth amser oherwydd mae UNSAIN wedi codi’r mater efo’r Gweinidog [Addysg] ers wythnosau.

“Rydym yn gwybod fod ailagor ysgolion ym mis Chwefror yn effeithio’n fawr ar rieni, a dylai Llywodraeth Cymru ddweud wrth gyflogwyr fod gweithwyr yn gallu bod yn rhan o’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws dan yr amgylchiadau yma.

“Mae modd i rieni sydd methu gweithio fod ar ffyrlo llawn neu ran amser.”

Teimladau pobol ifanc am ddychwelyd i’r ysgol

72% o’r bobol ifanc yn teimlo fod Covid-19 wedi cael rhywfaint o effaith ar eu haddysg