Mae Llafur Cymru’n dweud bod cyflwr Jo Stevens, aelod seneddol Canol Caerdydd, yn gwella.

Daeth i’r amlwg ar Nos Galan ei bod hi wedi’i tharo’n wael â’r coronafeirws ers tro a’i bod hi bellach yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Roedd Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, a Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan, wedi dymuno’n dda iddi.

Mewn neges ar Twitter yn rhoi diweddariad, dywed Llafur Cymru bod “cyflwr Jo yn gwella”.

“Mae hi wedi gofyn i ni ddiolch i chi i gyd am eich pryder caredig a’ch dymuniadau gorau sydd wedi bod yn ysgubol.”