Mae presenoldeb straen newydd o’r coronafeirws yng Nghymru yn golygu y bydd yn rhaid bod yn “fwy gofalus” yn ystod yr haf eleni, o gymharu â’r llynedd.

Dyna ddywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn ystod sesiwn graffu ag un o bwyllgorau’r Senedd brynhawn heddiw.

Yn siarad ar ddechrau’r wythnos, fe wnaeth Prif Weithredwr GIG Cymru godi pryderon am amrywiolyn Caint, gan ddatgelu y gallai beri “problem go iawn”.

Mae lle i gredu ei fod yn lledaenu yn gynt na mathau eraill o’r haint, a dyma’r fersiwn mwyaf cyffredin yn rhai rhannau o Gymru bellach.

Er y gallwn fod yn “optimistaidd” yng Nghymru (diolch yn rhannol i’r rhaglen frechu) mae’r Prif Weinidog wedi rhybuddio bod yr amrywiolyn yn cymhlethu pethau.

“Wrth i weithgarwch y gwasanaeth iechyd aildanio, a’r economi, mi allai’r feirws ledaenu tipyn yn gyflymach oherwydd amrywiolyn Caint,” meddai.

“Mae hynny o gymharu â haf diwethaf pan oeddwn yn ailagor yn raddol ac yn delio â’r straen Covid gwreiddiol. Mae hyn yn ofid ar hyn o bryd.

“Felly bydd yn rhaid i ni fod hyd yn oed yn fwy gofalus na thro diwethaf.”

Adfer ac iechyd meddwl

Yn ystod y sesiwn bu’r Prif Weinidog yn rhannu ei farn ynghylch dyfodol y pandemig, ynghyd â bywyd ar ben arall yr argyfwng.

Ac mi bwysleisiodd bod cwestiynau mawr ynghylch lefel y niwed sydd wedi bod i iechyd meddwl y boblogaeth.

“Yr effaith ar iechyd meddwl a lles yw un o’r dirgelion mawr o ran adfer ar ben arall yr argyfwng,” meddai.

“Wrth i bethau wella, a fydd hwyliau pobol hefyd yn gwella ymhlith y boblogaeth wrth i bobol weld cyfleoedd newydd yn dod i’r fei.

“Mae hwyliau isel a gorbryder yn rhan fawr o’r pandemig. Ond bydd yn rhaid i ni ddal ati i gryfhau ein gwasanaethau iechyd meddwl.

“Bydd angen gwneud yn siŵr bod help ar gael i bobol wrth i ni ddod allan o’r pandemig, a bod pobol yn teimlo y bydd help iddyn nhw wrth iddyn nhw ddelio â’r heriau newydd sydd yn sicr o fod,” ychwanega.

  • Gallwch ddarllen cyfweliad egsgliwsif gyda’r Prif Weinidog yn nodi blwyddyn o bandemig yn Golwg yr wythnos hon, isod.

Prif Weinidog Cymru: “Gallwn ni fod yn optimistaidd”

Iolo Jones

Mark Drakeford yn trafod covid, annibyniaeth, ac etholiad y Senedd