Mae Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd ei tharged o gynnig brechlyn i bawb yn y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf, meddai Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru.

Mae’r grwpiau blaenoriaeth hyn fel a ganlyn:

  • preswylwyr mewn cartref gofal i oedolion hŷn a’u gofalwyr
  • pob un o’r 80 mlwydd oed a throsodd a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
  • pob un o’r rhai 75 oed a throsodd
  • pob un o’r 70 mlwydd oed a throsodd ac unigolion sy’n agored iawn i niwed yn glinigol

Dywedodd Mr Drakeford fod y wlad wedi cyrraedd y “garreg filltir gyntaf” gyda’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 684,097 o bobol wedi cael dos cyntaf y brechlyn.

Daw hyn mewn cyfnod o bryder am gysondeb y cyflenwad.

Fodd bynnag, heddiw (dydd Gwener 12 Chwefror), mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi cadarnhau eu bod wedi cysylltu â phawb yn y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf i gynnig apwyntiad iddyn nhw gael y brechlyn.

Mae 740,000 o bobl yng Nghymru yn y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf ac o’r rheiny roedd 689,000 wedi cael brechlyn erbyn dydd Mercher.

“Ry’n ni’n disgwyl, pan fyddwn ni wedi cael ffigurau ddoe (Dydd Iau) y byddwn ni wedi mynd heibio’r 700,000 erbyn heddiw,” meddai Mark Drakeford.

Diolchodd am ymdrechion staff a gwirfoddolwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd wedi bod yn rhoi’r brechlynnau.

“Ymdrech aruthrol”

“Y brechlyn yw prif flaenoriaeth Llywodraeth Cymru a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru,” meddai

“Mae cyflawni’r garreg filltir gyntaf hon a chynnig y brechlyn i bawb yn y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf – y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn sgil y coronafeirws – yn ymdrech aruthrol. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn gweithio bob awr o’r dydd i gyrraedd y pwynt hwn.

“Wrth gwrs, dim ond megis dechrau mae’r gwaith caled – mae llawer iawn mwy o bobl i’w brechu eto a llawer o ddosau i’w rhoi o hyd.”

Pob pigiad yn fuddugoliaeth fach yn erbyn y feirws”

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: “Mae pob brechlyn a roddir i rywun yng Nghymru’n fuddugoliaeth fach yn erbyn y feirws ac rydym eisoes yn edrych ymlaen at gyrraedd y garreg filltir nesaf.

“Roedd y garreg filltir gyntaf yn ein Strategaeth Frechu yn nodi y byddai pawb yn y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf yn cael cynnig apwyntiad i gael eu dos cyntaf o’r brechlyn erbyn canol mis Chwefror.

“Ni fydd pawb yn y grwpiau hyn wedi bod i’w hapwyntiad eto, ni fydd rhai wedi ymateb a bydd rhai wedi dewis peidio â chael y brechlyn.

“Gofynnwn i unigolion gadw eu hapwyntiadau os yw’n bosibl, ond os oes rheswm dilys pam na all pobl gadw eu hapwyntiad, gofynnwn iddynt roi gwybod i’r bwrdd iechyd gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar eu gwahoddiad.

“Yna gellir aildrefnu’r apwyntiad ar gyfer amser neu leoliad mwy cyfleus.

 “Pan fyddwch wedi cael y brechlyn, dylech ddal ati i ddilyn y canllawiau gan aros gartref, cadw pellter o ddau fetr oddi wrth eraill, golchi’ch dwylo a gwisgo gorchudd wyneb i ddiogelu’r bobl o’ch amgylch.”

Roedd Llywodraeth Cymru wedi methu a chyrraedd targed blaenorol i frechu 70% o bobl dros 80 oed erbyn Ionawr 24 – gan frechu 52.8% yn unig erbyn y dyddiad yna. Y tywydd oer ac eira oedd wedi cael y bai gan weinidogion am fethu cyrraedd y targed hwnnw.

Ddydd Mercher, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i frechu mwy na 20% o’i phoblogaeth ac un o’r gwledydd cyntaf yn y byd i wneud hynny. Ond mae Mark Drakeford wedi cadarnhau y bydd gostyngiad yn y cyflenwad o’r brechlyn yn yr wythnosau nesaf.

Serch hynny, meddai, mae Cymru yn dal i ddisgwyl cwblhau brechu’r rhai yn y pum grŵp blaenoriaeth nesaf erbyn y gwanwyn.

 

Cau canolfannau brechu ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf dros dro yn sgil lleihad “disgwyliedig” yng nghyflenwad y DU

Ond Prif Weinidog Cymru’n dweud bod cynlluniau’n parhau i gwblhau brechiadau o’r pum grŵp blaenoriaeth nesaf erbyn y Gwanwyn