Mae Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, wedi dweud y bydd ‘problemau cychwynol’ gyda chytundeb masnach Brexit yn “parhau”.
Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei dadansoddiad o’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu (Cytundeb Masnach Brexit).
Ar ben hynny, dywedodd fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “hollol anghyfrifol” i ddweud bod canlyniadau eu cytundeb yn rhai annisgwyl.
Mae porthladdoedd Cymru wedi gorfod ymdopi a phroblemau yn ogystal â gostyniad sylweddol mewn traffig yn sgil Brexit.
Ac fe gyhoeddodd Brittany Ferries y byddai croesfan wythnosol rhwng Cherbourg a Rosslare yn dechrau ar Ionawr 18 yn sgil Brexit, ddeufis yn gynharach na’r disgwyl.
A “nid problemau cychwynnol mo’r prosesau hyn – nhw yw canlyniadau parhaol penderfyniadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig,” yn ôl Ken Skates.
‘Y Berthynas Newydd â’r UE – Beth mae’n ei olygu i Gymru’
Heddiw (dydd Gwener, Chwefror 12), mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Y Berthynas Newydd â’r UE – Beth mae’n ei olygu i Gymru, sy’n egluro’n beth sydd wedi newid ers i ni adael y cyfnod pontio a sut y gallai hynny effeithio ar ddinasyddion yng Nghymru.
Ymhlith rhai o’r rhwystrau a’r cymhlethdodau amlycaf sydd wedi codi ers Brexit, yn ôl y ddogfen, mae’r ffaith bod busnesau yn gorfod ymdopi â lefelau ychwanegol o fiwrocratiaeth a rhwystrau nad ydynt yn dariffau.
Ar ben hynny, mae porthladdoedd yn pryderu na fydd nifer y llwythi yn dychwelyd i lefelau blaenorol, wrth i gludwyr ddewis llwybrau mwy uniongyrchol i’r cyfandir a rhai busnesau yn stopio gwerthu i Ewrop yn gyfan gwbl.
“Parhau i gael effaith sylweddol ar ein cymunedau a’n busnesau”
Dywedodd Jeremy Miles, “Er y byddwn yn parhau i ddadlau dros gael perthynas gryfach ac agosach â’r Undeb Ewropeaidd yn y tymor canolig i’r tymor hir, ni all y rhwystrau newydd a’r tensiwn cynyddol rydym yn ei wynebu wrth fasnachu gyda’n cymdogion Ewropeaidd, ac wrth deithio i Ewrop, gael eu diystyru fel dim ond ‘camgymeriadau’ anfwriadol y gellid eu datrys yn gyflym – maent yn deillio o ddewisiadau gwleidyddol Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Does dim amheuaeth bod yr amgylchiadau gweithredu ar gyfer ein busnesau wedi newid yn ddramatig ddiwedd mis Rhagfyr – a bydd hyn yn parhau i gael effaith sylweddol ar ein cymunedau a’n busnesau.”
“Hollol anghyfrifol”
“Ac mae’n hollol anghyfrifol i Lywodraeth y Deyrnas Unedig honni bod rhai o’r nifer o anfanteision sydd eisoes wedi dechrau dod i’r amlwg, yn rhai ‘annisgwyl’, ac mai problemau cychwynnol yn unig ydynt,” meddai Jeremy Miles.
“Canlyniadau rhagweladwy ydynt yn bennaf – ac yn ganlyniadau a ragwelwyd – sy’n deillio o syniad afreal Llywodraeth y Deyrnas Unedig o osod sofraniaeth uwchben lles economaidd pobl Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig.
“Fel rydym wedi dweud drwy gydol y cyfnod negodi, nid oedd yn rhaid i ni ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn y ffordd hon.
“Ond wrth i ni wynebu’r cyfnod heriol hwn, rwyf am eich sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i’ch cefnogi chi wrth i ni fynd i’r afael â’r rhwystrau ychwanegol hyn sy’n atal ein ffyniant.
“Byddwn hefyd yn parhau i geisio sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn meithrin cydberthnasau agored a chroesawgar gyda’r byd yn ehangach, gan roi lles ein pobl wrth galon hynny.”