Bydd y gwaith o adeiladu pont newydd gwerth £46m dros yr afon Dyfi ger Machynlleth yn dechrau ym mis Mawrth.
Lleolir y draphont sy’n croesi’r afon, a’r gorlifdir gerllaw, 480m i fyny’r afon o’r bont bresennol sydd yn aml yn gorfod cael ei chau oherwydd llifogydd.
Y gobaith yw bydd y cynllun yn gwella diogelwch ffyrdd, yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng cymunedau â gwella cysylltedd trafnidiaeth er mwyn helpu i ysgogi datblygiad economaidd pellach yn y rhan hon o Gymru.
Rhoddwyd sêl bendith i’r bont ym mis Ionawr y llynedd ac mae gwaith wedi’i wneud i sicrhau y gall y gwaith adeiladu ddechrau tra’n cydymffurfio â rheolau Covid-19.
‘Mae angen mawr amdano”
“Dwi’n falch o allu cyhoeddi y bydd y gwaith adeiladu ar y cynllun hwn yn dechrau’r mis nesaf ac mae angen mawr amdano,” meddai Ken Skates, y Gweinidog Trafnidiaeth.
“Yn ogystal â bod yn llwybr allweddol rhwng y Gogledd a’r De, mae’r A487 yn gyswllt pwysig rhwng cymunedau yn lleol.
“Yn rhy aml o lawer, gall y cymunedau hyn gael eu hynysu oherwydd llifogydd ym Mhont Dyfi a rhaid mynd i’r afael â hyn.
“Bydd y seilwaith hanfodol hwn hefyd yn ategu’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi Bargen Twf Canolbarth Cymru i ddatblygu cyfleoedd economaidd newydd yn y rhan bwysig hon o Gymru.”
Bydd y bont gerrig restredig bresennol o’r 19eg ganrif yn parhau i fod yn nodwedd bwysig i’r ardal fel llwybr teithio llesol yn nyffryn Dyfi.
Mae’r contractwyr, Alun Griffiths, a fydd yn gyfrifol am y gwaith, yn bwriadu penodi peiriannydd graddedig a dau brentis lleol i weithio ar y cynllun gan ddatblygu cysylltiadau gyda’r ysgol uwchradd leol, Ysgol Bro Hyddgen.
“Cyn i’r gwaith ddechrau ym mis Mawrth byddwn yn ymgysylltu’n eang â’r gymuned, gan esbonio ein cynlluniau a disgrifio sut y byddwn yn sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu ar y gymuned leol,” meddai Cyfarwyddwr Gweithredol Griffiths, Martyn Evans.
“Rydym hefyd yn edrych ymlaen at sefydlu saith Nod Llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol yn ein gwaith – gan sicrhau bod pobl leol, yn awr ac yn y dyfodol, yn elwa ar y prosiect.”
Disgwylir i’r bont newydd gael ei chwblhau erbyn Gwanwyn 2023.