Ar derfyn Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yng Nghymru, mae’n gyfle i ddathlu effaith bositif gall prentisiaethau gael ar unigolion, busnesau a’r economi.

Erbyn hyn, mae miloedd o gyfleoedd prentisiaethau ar gael yng Nghymru, sy’n galluogi unigolion i blethu hyfforddiant ymarferol o fewn y gweithle, gydag elfen o astudio.

Mewn sgwrs gyda golwg360, mae tri pherson ifanc wedi trafod eu profiadau o weithio fel prentis ym maes trydaneg, peirianneg sifil a chyfryngau digidol.

Cawn ddysgu mwy ynglŷn â rhai o’r brîf fanteision o weithio a dysgu, ochr yn ochr â thrafod y modd mae’r profiadau hyn wedi siapio eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

“Ti’n dod yn berson lot fwy hyderus”

Mae Ceris Alaw Jones o Benygroes yn gweithio fel Prentis Peiriannydd Sifil Priffyrdd a Bwrdeistrefol gyda Chyngor Gwynedd, tra’n astudio cwrs lefel 3 mewn Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiladu.

Fel rhan o’i swydd, mae ei dyletswyddau’n cynnwys cynnal arolygiadau o’r ffyrdd, creu pecynnau gwybodaeth i gontractwyr a chynnal asesiadau risg.

“Os fysa chdi’n cymharu rhywun sydd yng ngholeg rŵan a rhywun sy’n gwneud prentisiaeth – mae CV y person prentisiaeth yn mynd i fod lot fwy diddorol i ddarllen,” meddai.

“I fi, dwi’n meddwl mai prentisiaethau ydi’r ffordd i fynd.

“Mae o’n rhywbeth sydd wedi dod lot fwy poblogaidd a dwi’n meddwl bod o’n wych bod chdi’n cael y profiad, y cymhwyster a ti’n cael cyflog ar yr un pryd.

“… a ti’n dod yn berson lot fwy hyderus.”

Dywedodd fod y profiad wedi ei hannog i wneud cais i astudio gradd mewn Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol John Moores ym mis Medi.

Ceris Alaw Jones

“O’n i ddim wedi gweld hogan arall yn gwneud o!” 

Mae gwaith adeiladu yn rhedeg yn y teulu i Zoe Adamkiewicz, o Llanfachraeth, Sir Fôn, sy’n gweithio fel Prentis Trydanol i gwmni Adra ers tair blynedd.

“Dwi wedi bod yn gweithio hefo’r teulu ers oni’n really ifanc,” meddai “ac roedd gwaith trydan yn apelio fwy na gwaith coed a phlymio… ac o’n i ddim wedi gweld hogan arall yn gwneud o!

“Mae’r rhan fwyaf o ffrindiau fi wedi mynd i uni ond maen nhw’n dod adra hefo lot o debts a ddim job ar y diwedd.

“Dwi’n cael cyflog da rŵan,” meddai, “a dwi’n cael dysgu.

“Ar ôl pasio – fydd y trade gyno fi am byth –  fyswn i’n gallu mynd i weithio yn rhywle neu gychwyn busnes fy hun. Ti’n dysgu lot o sgiliau wrth weithio, sut i weithio mewn tîm a jest pethau bach fysa chdi ddim yn meddwl am… fel bod ar amser!

“Os ydi rhywun yn disgwyl amdana chdi am 9 o’r gloch i newid socket – ti’n gorfod bod yna am 9 o’r gloch!”

Zoe Adamkiewicz

“Dwi’n enjoio codi’n bora a mynd i weithio!”

Er mwyn nodi Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, cyhoeddodd y landlord cymdeithasol Adra academi newydd yr wythnos hon, gyda’r nod o gefnogi mwy na 60 o bobol ifanc i ddatblygu sgiliau newydd a chael mynediad at gyfleoedd gwaith.

“Mae Adra wedi bod mor dda hefo fi,” meddai Zoe, “os ydw i angen llyfrau neu rywbeth i Coleg, dwi’n cael llyfrau ganddyn nhw, neu tools newydd.

“Dwi wedi cael mynd ar lot o gyrsiau iechyd a diogelwch, absestos – dwi wedi cael gwneud lot.

“Mae o’n rhoi gymaint o gyfleoedd gwahanol ac agor gymaint o ddrysau.

“Ar ôl bron i bedair blynedd, dwi’n enjoio codi’n bora a mynd i weithio!”

“O’n i ddim yn un i ddysgu mewn dosbarth”

Dros y flwyddyn diwethaf, mae Daniel Crookes sydd hefyd yn byw ym Mhenygroes wedi gweithio fel prentis digidol yn Siop Griffiths i gynnal prosiectau digidol o fewn y gymuned.

“Rhan o fy swydd ydi gweithio hefo ysgolion ar brosiectau digidol mawr a bach, unrhyw beth digidol – fyswn i’n stepio i mewn!

“Mae bod yn brentis digidol yn rhywbeth eithaf broad ac felly mae cael y teitl yna’n golygu bod fi ddim jyst yn gwneud gwaith ICT, ffilmio neu gyfryngau cymdeithasol.

“Mae o hefyd yn meddwl bod fi’n gweithio hefo’r gymuned.

“Oni ddim yn un i ddysgu mewn dosbarth,” eglurai, “ac mae cael y profiad yna o fod yn ‘hands on’ wedi dysgu mwy i fi na fyswn i wedi gwneud wrth fynd i coleg am ddwy flynedd.

“Fel hyn, dwi wedi dysgu lot mwy nag fyswn i wedi gwneud yn Coleg felly dwi hefo’r experiences i gyd a dwi hefyd hefo’r qualifications.”

Daniel Crookes

“Mwy o hyder, profiad a chyflogadwyedd”

“Gall prentisiaethau ddarparu cyfleoedd gwych i bobl sy’n chwilio am waith a hyfforddiant,” meddai Nikki Lawrence, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru.

“Yn ogystal â gallu datblygu gyrfa mewn swydd a diwydiant penodol o’r diwrnod cyntaf un, mae prentisiaid yn gallu ennill cymwysterau cydnabyddedig tra byddant yn ennill cyflog.

“Efallai y caiff rhai prentisiaid gynnig swydd ar ddiwedd eu lleoliad, ac efallai y bydd eraill yn gadael gyda mwy o hyder, profiad, a chyflogadwyedd.

“Fodd bynnag, rydym yn deall bod hwn yn gyfnod ansicr i bobl sy’n chwilio am gyfleoedd cyflogaeth fel prentisiaethau.

“Mae ein cynghorwyr yma i helpu gyda’r ansicrwydd hwn, i ddarparu cyngor a chymorth er mwyn arwain pobl drwy eu camau nesaf.”

 

Adra yn lansio ymgyrch i gynyddu cyfleoedd gwaith yn y gogledd

Shân Pritchard

Y nod ydi cefnogi mwy na 60 o bobol ifanc i ddatblygu sgiliau newydd a chael mynediad at gyfleoedd gwaith