Y llynedd crebachodd economi’r Deyrnas Unedig ar y gyfradd gyflymaf ers y 1920au.

Daw hyn wedi i’r pandemig a’r cyfyngiadau orfodi miloedd o fusnesau i aros ar gau am fisoedd.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol gostyngodd y cynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) 9.9% – y gostyngiad mwyaf ers dechrau cadw cofnodion GDP am y tro cyntaf ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Dydy’r mesur erioed wedi gostwng mwy na 4.1% ac mae amcangyfrif hanesyddol Banc Lloegr sydd yn mynd yn ôl ganrifoedd yn awgrymu mai dyma’r flwyddyn waethaf ers 1921.

Osgoi dirwasgiad dwbl

Ond ar ôl gweld twf o 1.2% fis Rhagfyr, a hynny er gwaethaf cyfyngiadau ar draws gwledydd Prydain, mae’n ymddangos bod yr economi wedi osgoi’r hyn a allai fod wedi bod yn ddirwasgiad dwbl cyntaf ers y 1970au.

“Wrth lacio’r cyfyngiadau mewn sawl rhan o’r Deyrnas Unedig gwelwyd elfennau o’r economi’n adfer rhywfaint o dir a gollwyd ym mis Rhagfyr, gyda lletygarwch, gwerthu ceir a siopau trin gwallt i gyd yn gweld twf,” meddai dirprwy ystadegydd cenedlaethol y Swyddfa Ystadegau Gwladol Jonathan Athow.

“Roedd cynnydd mewn profion ac olrhain Covid-19 hefyd wedi rhoi hwb i’r canlyniadau.

“Fodd bynnag, gostyngodd cynnyrch mewnwladol crynswth ar gyfer y flwyddyn bron 10%, mwy na dwywaith cymaint â’r gostyngiad blynyddol mwyaf blaenorol ar gofnod.”

Economi’r Deyrnas Unedig wedi gweld y cwymp gwaethaf o unrhyw economi fawr

Mae’r Deyrnas Unedig yn wynebu’r dirwasgiad mwyaf ers i gofnodion ddechrau