Fe fydd dau ddyn yn mynd gerbron ynadon Caerdydd heddiw (Dydd Gwener, Chwefror 12) mewn cysylltiad â llofruddiaeth Tomasz Waga.

Mae Damjano Velo, 23, o’r Eglwys Newydd, Caerdydd wedi cael ei gyhuddo o lofruddio’r dyn 23 oed yng Nghaerdydd.

Cafodd Behar Kaci, 29, ei gyhuddo o droseddau’n ymwneud a chyffuriau a gwyngalchu arian.

Cafwyd hyd i gorff Tomasz Waga, 23, gan aelod o’r cyhoedd yn Heol Westville, Penylan tua 11.30yh ar nos Iau, Ionawr 28.

Cafodd Damjano Velo a Behar Kaci eu harestio nos Lun a’u cadw yn y ddalfa yng ngorsaf yr heddlu ym Mae Caerdydd.

Mae teulu Tomasz Waga wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf ac yn parhau i gael cymorth gan swyddogion cymorth teulu arbenigol.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark O’Shea, sy’n arwain yr ymchwiliad, bod cyhuddo’r ddau ddyn yn “gam sylweddol” ond eu bod yn parhau gyda’u hymchwiliadau.

Maen nhw’n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn Heol Westville, Heol Minster neu ger 319 Heol Casnewydd rhwng 10yh a hanner nos ar Ionawr 28.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.