Mae erlynwyr yn achos uchelgyhuddo Donald Trump wedi dweud os na chaiff y cyn-arlywydd ei ganfod yn euog gallai niweidio democratiaeth yr Unol Daleithiau am byth.

Wrth gyflwyno’u hachos, dangoswyd cyfres o fideos newydd o ymosodiad ar adeilad y gyngres fis diwethaf, sydd yn dangos protestwyr yn datgan yn falch eu bod nhw’n dilyn “gorchmynion yr arlywydd” i frwydro ac i wrthdroi canlyniad yr etholiad.

Mae Donald Trump wedi ei gyhuddo o annog y terfysg na welwyd ei debyg erioed o’r blaen yn hanes yr Unol Daleithiau.

Roedd yr ymosodiad ar adeilad y Capitol wedi syfrdanu’r byd wrth i gannoedd o derfysgwyr dorri mewn i’r adeilad er mwyn ceisio atal buddugoliaeth yr Arlywydd Joe Biden.

Donald Trump yw’r arlywydd cyntaf i wynebu achos uchelgyhuddo ar ôl gadael ei swydd a’r cyntaf i gael ei uchelgyhuddo ddwywaith.

‘Pwy sydd i ddweud na fydd yn digwydd eto?’

“Os ydym yn esgus na ddigwyddodd hyn, neu’n waeth, os na fydd yn atebol, pwy sydd i ddweud na fydd yn digwydd eto?” dadleuodd yr erlynydd Joe Neguse.

Bydd cyfreithwyr yn dechrau amddiffyn Donald Trump heddiw (Dydd Gwener, Chwefror 12), gan ddadlau er mor ofnadwy oedd yr ymosodiad, ei bod yn amlwg nad oedd yr arlywydd yn rhan o hynny.

Gallai’r trafodaethau ddod i ben y penwythnos hwn gyda phleidlais gan y seneddwyr sy’n eistedd ar y rheithgor uchelgyhuddo.

Ymateb Arlywydd Biden

Yn y Tŷ Gwyn, dywedodd yr Arlywydd Joe Biden ei fod yn credu y gallai’r fideos newydd argyhoeddi a newid meddyliau rhai o’r seneddwyr.

Dywedodd Joe Biden nad oedd yn gwylio unrhyw un o’r trafodaethau yn fyw ond ei fod wedi gweld adroddiadau newyddion yn ddiweddarach.