Mae’r wefan wyliau Lastminute.com yn wynebu achos llys am fethu ag ad-dalu £1 miliwn i rai o’i gwsmeriaid ar ôl i’w gwyliau gael eu canslo yn sgil y pandemig.

Roedd y cwmni wedi rhoi addewid i ad-dalu £7 miliwn i 9,000 o gwsmeriaid erbyn diwedd mis Ionawr.

Ond yn ôl yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) mae £1m yn dal heb gael ei ad-dalu i 2,600 o gwsmeriaid.

Os na fydd yr arian yn cael ei dalu o fewn saith diwrnod, fe fydd y cwmni yn wynebu achos llys meddai’r Awdurdod.

Roedd y corff rheoleiddio hefyd wedi darganfod nad oedd y cwmni wedi cwrdd â’i ymrwymiad i ad-dalu cwsmeriaid o fewn 14 diwrnod ar ôl i’w gwyliau gael eu canslo ar neu ar ôl Rhagfyr 3.

Cafodd Lastminute.com hefyd eu cyhuddo o ddweud wrth rai cwsmeriaid i fynd yn uniongyrchol at y cwmni hedfan er mwyn cael ad-daliad am gost yr hediad, sy’n mynd yn groes i reolau.

Dywedodd prif weithredwr y CMA Andrea Coscelli ei bod yn “annerbyniol” bod miloedd o gwsmeriaid Lastminute.com yn dal i aros am ad-daliad am wyliau.