Mae pennaeth pwyllgor trefnu’r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn Tokyo wedi gadael ei swydd yn dilyn sylwadau rhagfarnllyd a wnaeth am fenywod.

Mae Yoshiro Mori wedi camu o’r rôl fel llywydd y sefydliad ar ôl awgrymu bod cyfarfodydd yn ymwneud a menywod yn tueddu i lusgo mlaen.

Mae Yoshiro Mori, 83, wedi ymddiheuro am ei sylwadau “annerbyniol”.

Daw’r cyhoeddiad cyn cyfarfod o fwrdd Tokyo 2020 heddiw (Dydd Gwener, Chwefror 12).

Yn ôl adroddiadau mae disgwyl i Saburo Kawabuchi, cyn-gadeirydd Cymdeithas Bêl-droed Siapan, olynu Yoshiro Mori.

Yn gynharach yr wythnos hon roedd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol wedi rhyddhau datganiad yn dweud bod ei sylwadau yn “annerbyniol” ond nid oedd wedi mynd mor bell a gofyn iddo ymddiswyddo.

Mae trefnwyr y Gemau wedi wynebu salw her sydd wedi’u hachosi gan y pandemig.

Roedd disgwyl i’r Gemau gael eu cynnal yn yr haf y llynedd ond cafodd y digwyddiad ei ohirio am 12 mis.