Mae un o gylchoedd cerrig hynaf Prydain, o’r enw Waun Mawn, wedi ei ddarganfod ym Mynydd Preseli yn Sir Benfro – a gallai fod yn sail i Gôr y Cewri (Stonehenge) yn Wiltshire.

Côr y Cewri – neu ‘Stonehenge’ yn Saesneg – yw un o safleoedd hynafol enwoca’r byd, a bu dyfalu ers degawdau bod y cerrig mawr yno wedi deillio o Gymru.

Cafodd y darganfyddiad diweddaraf am y cyswllt Cymreig ei wneud wrth ffilmio rhaglen Stonehenge: The Lost Circle Revealed a fydd yn cael ei ddarlledu heno (Chwefror 12) ar BBC Two.

Dan arweiniad yr Athro Mike Parker Pearson o Goleg Prifysgol Llundain, cloddiwyd dwy chwarel meini gleision ym Mynydd Preseli. A bydd ffrwyth yr ymchwil i’w weld ar y rhaglen.

Mae’r tîm sy’n gyfrifol am y darganfyddiad yn dweud bod elfennau allweddol sy’n cysylltu cerrig Côr y Cewri i Waun Mawn.

Maen nhw’n awgrymu y gallai’r meini gleision fod wedi eu symud i Loegr wrth i bobol o Breseli fudo, gan fynd a’r henebion gyda nhw fel arwydd o’u hunaniaeth, a’u hailgodi 175 milltir i ffwrdd.

Yn ôl arbenigwyr, gallai hynny egluro pam y bu i’r meini gael eu cludo mor bell, er bod y mwyafrif o gylchoedd yn cael eu codi yn agos at y chwareli y daeth y cerrig ohonyn nhw.

Mae’r meini gleision yn Waun Mawr yn hynach na cherrig Côr y Cewri, ac er mai dim ond pedair carreg sy’n dal ar y safle fe ddatgelwyd tyllau ar y safle yn 2018 lle byddai’r meini gwreiddiol wedi sefyll.

Cafodd olion y tyllau eu dyddio, gan ddangos eu bod wedi eu codi oddeutu 3,400 CC.

Diamedr y cylch Cymreig yw 110m, yr un fath a’r ffos sy’n amgylchynu Côr y Cewri.

Mwy i’w ddarganfod o hyd

Er mai dim ond ychydig o gerrig Côr y Cewri gellir eu cysylltu’n uniongyrchol â Waun Mawr, mae gweddillion y bobol a gladdwyd ar safle Côr y Cewri yn cefnogi’r ddamcaniaeth, gan fod rhai ohonynt yn dod o orllewin gwledydd Prydain, ac felly o bosib o Gymru.

“Mae fel pe petai’r cerrig wedi diflannu [o Waun Mawr]. Efallai bod pobol wedi mudo, gan gymryd eu cerrig – eu hunaniaeth hynafol – gyda nhw,” meddai’r Athro Mike Parker Pearson.

“Gydag amcangyfrif bod 80 o gerrig glas wedi’u gosod ar [safle] Côr y Cewri a Bluestonehenge gerllaw, rwy’n dyfalu nad Waun Mawn oedd yr unig gylch cerrig a gyfrannodd at Gôr y Cewri.

“Efallai bod mwy yn y Preseli yn aros i gael eu canfod. Pwy a ŵyr? Bydd rhywun yn ddigon ffodus i ddod o hyd iddyn nhw ryw ddydd!”