Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi awgrymu na fydd rheolau Covid-19 yng Nghymru yn cael eu llacio tan y Pasg.

Hyd yma mae Llywodraeth Cymru wedi adolygu rheolau Covid-19 yn ffurfiol ddwywaith ers i’r cyfyngiadau cenedlaethol Lefel 4 ddod i rym yng Nghymru ar Ragfyr 20.

Doedd dim newid yn yr adolygiad cyntaf ar Ionawr 8, ond cyhoeddwyd peth newidiadau yn yr ail adolygiad ar Ionawr 29.

Ers hynny mae hawl gan bobol i ymarfer corff gydag un person arall a chreu swigen gymorth newydd.

Bydd yr adolygiad nesaf ddydd Gwener, Chwefror 19, ac ysgolion fydd y flaenoriaeth bryd hynny yn ôl y Prif Weinidog.

“Dydd Gwener nesaf fyddwn ni’n rhoi pob ymdrech i ail agor ein hysgolion, plant yw blaenoriaeth gyntaf y Llywodraeth yma yng Nghymru,” meddai Mark Drakeford wrth BBC Radio Cymru.

Er bod disgwyl i blant rhwng tair a saith oed ledled Cymru ddychwelyd i’r ysgol ar Chwefror 22 mae awdurdod lleol Wrecsam eisoes wedi dweud na fydd hynny yn digwydd yno. 

‘Llwybr tan y Pasg’

Bydd yr adolygiad nesaf wedi hynny ar Fawrth 12, ond dydy Mark Drakeford ddim yn disgwyl y bydd llacio sylweddol tan wyliau’r Pasg, sydd ar benwythnos cyntaf mis Ebrill eleni.

“Bydd rhaid gweld os gallwn ni fwrw ymlaen â chael nifer y bobol sydd yn dioddef o coronafeirws yng Nghymru i lawr,” meddai.

“Mi ydym ni wedi llwyddo i wneud hynny ers y Nadolig ac ar hyn o bryd mae o gwmpas 100 o bobol i bob can mil yn dioddef o’r coronafeirws [yng Nghymru].”

Roedd dros 600 o achosion i bob 100,000 o’r boblogaeth ar ddechrau’r cyfnod clo.

“Os gallwn ni fwrw ymlaen i adeiladau ar y llwyddiant yna… galla i weld llwybr tan y Pasg ble gallwn ni ddechrau yn ofalus i lacio’r cyfyngiadau sydd gennym ni ar hyn o bryd.”

Ychwanegodd Mark Drakeford ei fod yn disgwyl i reolau ymbellhau cymdeithasol, gwisgo masgiau a hylendid barhau o leiaf tan ddiwedd yr haf, ac efallai tan ddiwedd y flwyddyn.

“Roedd y rheolau yma mewn lle dros yr haf diwethaf, pan oedd cyfleoedd i bobol fynd allan bwyta allan a gwneud lot o bethau mae pobol yn mwynhau gwneud.

“Mi allaf weld sefyllfa debyg lle bydd mwy o ryddid a mynd nôl at bobol dros y flwyddyn sydd i ddod mewn ffordd ofalus.

“Ond bydd rhaid cadw at y rheolau sylfaenol sydd yn ein gwarchod ni.”

Amrywiolyn Caint yn golygu bydd angen bod yn “fwy gofalus” yr haf hwn

“Bydd yn rhaid i ni fod hyd yn oed yn fwy gofalus na thro diwethaf,” medd Mark Drakeford