Tra bydd plant rhwng tair a saith oed ledled Cymru yn dychwelyd ar Chwefror 22 bydd ysgolion yn Wrecsam yn parhau ar gau tan ar ôl hanner tymor i ddisgyblion o bob oed.

Daw’r penderfyniad gan yr awdurdod lleol gan mai yno mae’r nifer uchaf o achosion Covid-19 yng Nghymru.

Mae data gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod 235.4 achos i bob 100,000 o’r boblogaeth yn Wrecsam a hynny yn uwch na’r 229.5 gofnodwyd ddydd Llun.

‘Llawer gwaeth’

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod dros Addysg ar Gyngor Wrecsam bod y lefelau yn “llawer gwaeth” na rhannau eraill o Gymru.

“Mae hwn felly yn ddull rhagofal rydyn ni’n ei gymryd,” meddai.

“Byddwn yn monitro’r sefyllfa yn barhaus, a byddwn yn gweithio gydag ysgolion i adolygu a chwblhau trefniadau ar ôl hanner tymor.

“Ni fydd dysgwyr y cyfnod sylfaen yn dychwelyd tan 26 Chwefror ar y cynharaf, bydd penaethiaid yn diweddaru rhieni am hyn.

“Ein blaenoariaeth yw lles ein disgyblion, staff, rhieni, gofalwyr a chymunedau ehangach.”

Blaenoriaeth i’r dysgwyr ieuengaf

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wythnos diwethaf nad oedd Cymru “mewn sefyllfa i ddychwelyd pob disgybl yn ôl i’r ysgol” ond y bydd dysgwyr ieuengaf yn cael eu blaenoriaethu.

“Fodd bynnag, diolch i bobol sy’n dilyn ein rheolau cenedlaethol, mae digon o le i ni ddod â rhai o’n dysgwyr yn ôl mewn ffordd raddol, hyblyg a blaengar,” meddai.

“Ar ôl hanner tymor, o 22 Chwefror, bydd ein dysgwyr Cyfnod Sylfaen [plant 3 i 7 oed] yn dechrau dychwelyd i’r ysgol.”

Mae’r dysgwyr ieuengaf wedi cael blaenoriaeth am eu bod yn ei chael hi’n anodd dysgu o bell, ac mae risgiau trosglwyddo yn is, yn ôl Kirsty Williams.