Mae brechlyn y coronafeirws yn “gwbl hanfodol” er mwyn i bobol allu mynd ar wyliau haf eleni, yn ôl Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, Matt Hancock.

Daw hyn wedi i faes awyr Heathrow, y maes awyr mwyaf ym Mhrydain, gyhoeddi fod nifer y teithwyr wedi gostwng 89% ym mis Ionawr o gymharu â’r un mis yn 2020.

“Dw i’n gwybod bod pobol yn ysu eisiau gwybod os allant fynd ar wyliau haf eleni, ond mae’r pandemig yn gyfnod anodd ac yn golygu fod llawer o ansicrwydd o hyd, felly mae arnaf ofn y bydd rhaid i bobol fod yn amyneddgar cyn y gallwn gael y sicrwydd hwnnw,” meddai wrth raglen BBC Breakfast.

Fodd bynnag mae’n cydnabod ei fod eisioes wedi trefnu i fynd ar wyliau i Gernyw.

“Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pobol yn gallu cael gwyliau haf eleni, ond mae cyflwyno’r brechlyn yn gwbl hanfodol i hynny.

“Byddwn yn darparu rhagor o fanylion pan mae modd i ni, ond ar hyn o bryd yn anffodus mae’r ansicrwydd yn parhau.”

Ychwanegodd fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “gwneud popeth o fewn ei gallu” i alluogi pobol i weld eu hanwyliaid a chael mynd ar wyliau.

Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson hefyd wedi rhybuddio ei bod hi’n rhy gynnar i gynnig unrhyw sicrwydd am wyliau haf eto.

Rheolau cwarantîn newydd

Dan y cyfyngiadau presennol mae’n anghyfreithlon i fynd ar wyliau yng Ngwledydd Prydain a thramor.

Mae rhaglen gwarantîn i bobol sydd yn dychwelyd i wledydd Prydain yn dechrau ddydd Llun, Chwefror 15.

Bydd pobol sy’n gwrthod mynd i gwarantîn yn wynebu dedfryd o garchar a £10,000 o ddirwy, tra bydd teithwyr sy’n aros mewn gwestai cwarantîn yn Lloegr yn gorfod talu £1,750.

Mae Cymru wedi mabwysiadu’r un rheoliadau teithio sydd wedi’u cyflwyno i deithwyr o dramor yn Lloegr.

Awyren

Bydd rheoliadau teithio Llywodraeth Prydain ar waith yng Nghymru hefyd

Mae’r rhain yn cynnwys cyfnod o garchar am ddweud celwydd am deithio o wledydd ‘rhestr goch’ a dirwy am wrthod mynd i gwarantîn