Fe fydd Cymru’n mabwysiadu’r rheoliadau teithio sydd wedi’u cyflwyno i deithwyr o dramor yn Lloegr, yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Yn ôl y mesurau, a gafodd eu cyhoeddi gan Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, gallai teithwyr sy’n dweud celwydd ar ffurflenni i guddio eu bod nhw wedi bod i wlad ‘rhestr goch’ o fewn deg diwrnod cyn cyrraedd gwledydd Prydain wynebu hyd at ddeng mlynedd o garchar.

Ar ben hynny, bydd pobol sy’n gwrthod mynd i gwarantîn yn wynebu £10,000 o ddirwy, tra bydd teithwyr sy’n aros mewn gwestai cwarantîn yn Lloegr yn gorfod talu £1,750.

‘Dull pedair gwlad’

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, mae llywodraethau gwledydd Prydain “wedi cytuno ar ddull pedair gwlad” o ran yr ymateb i’r cyfyngiadau teithio, a byddan nhw’n “rhoi ar waith yr un trefniadau yng Nghymru ag y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei wneud o ran Lloegr”.

“Bydd hyn yn cynnwys yr holl bobol sy’n dychwelyd i Gymru o Chwefror 15 yn gorfod bwcio a thalu am brofion cyn iddyn nhw deithio,” meddai.

“Bydd hyn yn cael ei wneud drwy borth y Deyrnas Unedig, p’un a yw person wedi bod i wlad rhestr goch ai peidio.

“Mae pobol sy’n dychwelyd i Gymru o wledydd rhestr goch yn gwneud hynny drwy borthladdoedd eraill yn y Deyrnas Unedig, yn bennaf drwy Loegr.

“O Chwefror 15, bydd yn ofynnol i’r holl bobol sy’n cyrraedd Lloegr ynysu mewn gwestai penodedig.

“Mae hyn yn cynnwys unrhyw un sy’n bwriadu teithio yn eu blaen i Gymru, a bydd angen iddyn nhw fynd i westy penodedig ar gyfer cwarantîn yn Lloegr.

“Bydd angen bwcio hyn cyn teithio.”