Mae’r pôl piniwn diweddaraf wedi dangos fod y mwyafrif o Albanwyr yn dal i gefnogi annibyniaeth, er bod mwy o bobol yn credu fod plaid yr SNP yn rhanedig.

Canfu ymchwil ar gyfer papur newydd The Scotsman y gallai 47% o bobl bleidleisio o blaid annibyniaeth mewn ail refferendwm, gyda 42% yn gwrthwynebu annibyniaeth a 10% heb benderfynu.

Pan fydd y rhai sydd ddim yn gwybod sut fydden nhw’n pleidleisio yn cael eu heithrio, mae’r gefnogaeth dros adael y Deyrnas Unedig yn 53% – i lawr 4% ers mis Ionawr – gyda 47% yn cefnogi parhau’n rhan o’r Undeb.

Cafodd 1,002 o bobol 16 oed a throsodd eu cyfweld rhwng Chwefror 4 a 9 ar gyfer y pôl piniwn diweddaraf.

Roedd gostyngiad o 8% yn nifer yr Albanwyr sy’n credu bod yr SNP yn “unedig” – i lawr o 50% fis diwethaf i 42%.

Daw hyn yn sgil ffrae gyhoeddus rhwng arweinydd yr SNP, y Prif Weinidog Nicola Sturgeon, a’i rhagflaenydd Alex Salmond.

Mae Alex Salmond wedi cyhuddo Nicola Sturgeon o gamarwain Senedd yr Alban, wrth i bwyllgor o Aelodau o’r Senedd ymchwilio i’r ffordd y mae Llywodraeth yr Alban wedi ymdrin â honiadau o aflonyddu yn ei erbyn.

54% yn bwriadu pleidleisio dros yr SNP ym mis Mai

Wrth edrych ymlaen at etholiad Holyrood ym mis Mai, dywedodd 54% o Albanwyr y byddant yn pleidleisio dros yr SNP, gyda 43% yn cefnogi’r blaid ar y rhestr ranbarthol.

Mae bron i chwarter (23%) yn bwriadu pleidleisio dros Geidwadwyr yr Alban yn eu hetholaeth, gyda 21% yn eu cefnogi yn y bleidlais ranbarthol.

Mae Llafur yr Alban yn y trydydd safle, gydag 16% yn cefnogi’r blaid yn y bleidlais etholaethol a 18% ar y rhestr ranbarthol.

Yn y cyfamser, roedd 6% yn bwriadu pleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol ar ddwy ran y bleidlais, tra bod cefnogaeth i Blaid Werdd yr Alban – sydd ond yn cynnwys ymgeiswyr mewn nifer fach o seddi etholaethol – wedi cael cefnogaeth o 10% ar y bleidlais ranbarthol.

Mae The Scotsman yn adrodd y byddai’r canlyniadau hynny’n gweld 71 o ymgeiswyr SNP yn cael eu hethol – a fyddai’n fwyafrif yn Senedd yr Alban ac i fyny o’r 64 a enillwyd ganddynt yn etholiad 2016.

Byddai gan y Torïaid 24 o Aelodau o’r Senedd i lawr saith o 2016, gyda Llafur o bosibl yn cael 19, sydd bump yn llai.

Roedd y canlyniadau hefyd yn rhagweld y byddai’r Blaid Werdd yn ennill 11 o Aelodau o’r Senedd, a phedwar Democratiaid Rhyddfrydol yn cael eu hethol.

“Ni fydd yr SNP yn cymryd unrhyw beth yn ganiataol”

Dywedodd Dirprwy Arweinydd yr SNP, Keith Brown: “Gyda 21 arolwg barn yn olynol yn dangos mwyafrif yn cefnogi annibyniaeth, mae’n amlwg bod yn rhaid i ddyfodol yr Alban fod yn nwylo’r Alban – nid yn nwylo Boris Johnson.

“Mae gan bobol yr Alban yr hawl i benderfynu ar eu dyfodol eu hunain, mewn refferendwm ar ôl y pandemig.

“Y mater sydd wrth wraidd yr etholiad ym mis Mai fydd pwy sydd â’r hawl i benderfynu pa fath o wlad y dylem fod ar ôl y pandemig – pobol yr Alban neu Boris Johnson?

“Gall yr Alban wrthod Brexit, toriadau llym y Torïaid a llywodraethau San Steffan nad ydyn ni’n pleidleisio drostynt – a dewis adeiladu adferiad cryf, teg a chyfartal fel gwlad annibynnol.

“Er bod polau’n galonogol, ni fydd yr SNP yn cymryd unrhyw beth yn ganiataol.

“Yr unig ffordd o sicrhau y gall yr Alban benderfynu ar ein dyfodol ein hunain yw drwy bleidleisio dros yr SNP ym mis Mai.”

Galw ar aelodau’r SNP i “aros yn ffyddiog” y daw annibyniaeth i’r Alban

Ian Blackford, arweinydd y blaid yn San Steffan, yn annerch cynhadledd rithiol y blaid
Alex Salmond a Nicola Sturgeon gyda dogfennau lansio'r 'Sgwrs Genedlaethol'

Ffrae rhwng Alex Salmond a Nicola Sturgeon yn dwysáu

Y cyn-brif weinidog yn cyhuddo’i olynydd o gamarwain Senedd yr Alban