Mae’r Gweinidog Cyllid wedi wfftio’r haeriad bod gan y Llywodraeth “ddiffyg uchelgais” pan ddaw at ariannu prosiectau yng Nghymru.
Dan Ddeddf Cymru 2014 a 2017 mae gan Lywodraeth Cymru y gallu i fenthyg £150m y flwyddyn, trwy Lywodraeth San Steffan, i’w fuddsoddi mewn cyfalaf (prosiectau, isadeiledd ac ati).
Hyd yma mae’r Llywodraeth wedi benthyg £65m yn unig at y diben hwnnw (ar ddechrau 2019), ac mae wedi cael ei beirniadu am hynny mewn darn diweddar gan Business Live.
Yn ystod Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, mi wnaeth Rhun ap Iorwerth, AoS Plaid Cymru, dynnu sylw at yr erthygl a holodd pam bod pwerau benthyg wedi’u “tanddefnyddio”.
“A wneith y gweinidog gyfaddef,” meddai’n ddiweddarach, “i’r realiti bod gan y Llywodraeth Llafur yma ddiffyg uchelgais tros Gymru, a bod hyn yn dystiolaeth bellach o hynny?”
Atebodd Rebecca Evans trwy dynnu sylw at brosiectau y mae’r Llywodraeth yn bwriadu buddsoddi ynddyn nhw, gan gynnwys trydedd bont dros Afon Menai, a Metro trafnidiaeth De Cymru.
“Os ydych eisiau gweld yr uchelgais sydd gan Lywodraeth Lafur Cymru jest cymerwch gip dros y rhaglenni buddsoddiad sydd yn yr arfaeth, ac yr ydym wedi eu hamlinellu,” meddai.
“Buddsoddiad difrifol mewn cymunedau yw pob un o’r rhain,” meddai. “Ac mi fyddan nhw heb os yn cael effaith ar greu swyddi ac yn rhoi hwb i’r economi.
“Felly dyw’r haeriad ein bod ni ddim yn uchelgeisiol yn y maes yma, ddim yn gywir o gwbl. A dweud y gwir, mae cynllun buddsoddi mewn isadeiledd Cymru yn dweud y gwrthwyneb.”
Pam mor gyndyn?
Mae darn Business Live yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o “danddefnyddio ei phwerau benthyg yn sylweddol” ac mae’n dyfynnu’r economegydd blaenllaw, Gerry Holtham.
Wnaeth yr economegydd hwn gadeirio comisiwn a edrychodd ar fodel cyllido tecach i Lywodraeth Cymru, ac mae yntau hefyd wedi cynnig beirniadaeth.
“Mae methu benthyg yn ystod dwy flynedd ariannol [2019-20 a 2020-21] yn olynol yn ymddangos fel diffyg uchelgais,” meddai mewn dyfyniad yn y darn.
Mae Llywodraeth yr Alban yn medru benthyg £450 miliwn y flwyddyn i’w wario ar gyfalaf, ac ers pasio Deddf yr Alban yn 2012 mae’r llywodraeth honno wedi benthyg £1.6bn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod trefniadau Llywodraeth San Steffan yn anhyblyg ac yn lletchwith, ac yn dweud mai dyna sydd wrth wraidd ei chyndynrwydd i fenthyg.