Mae Cymru’n sylweddoli faint o fygythiad fydd yr Alban yn y gêm chwe gwlad y pnawn yma, yn ôl y capten Alun Wyn Jones.
Fe fydd y tîm cenedlaethol yn wynebu’r Alban yn Murrayfield gyda chwarter eu carfan yn methu â chwarae oherwydd anafiadau neu waharddiad. Yn eu plith mae George North, Josh Adams, Jonathan Davies, Dan Lydiate a Josh Navadi.
Er i Gymru guro Iwerddon ddydd Sadwrn ddiwethaf, mae’r Alban hefyd yn llawn hyder ar ôl curo Lloegr yn Twickenham am y tro cyntaf ers 1983.
“Yn gyffredinol, mae’n hamddiffyniad wedi gwella, ond pan ydym yn cael meddiant o’r bêl rhaid manteisio ar hynny,” meddai Alun Wyn Jones.
“Fe wnaeth ein cymeriad ddod i’r amlwg yn y gêm yn erbyn Iwerddon. Mae’n debyg inni roi llawer o bwysau arnom ein hunain yn yr hanner cyntaf, ac fe ddaethom drwyddi ac ennill y gêm.
“Mae’n amlwg ei bod yn siom i’r bechgyn hynny a gafodd eu hanafu yn y gêm ac wrth ymarfer, ond mae’n brawf ychwanegol i’r garfan symud ymlaen.
“Dyw’r Alban ddim wedi gwyro o’u chwarae ymosodol.
“Rydym yn llawn sylweddoli eu bygythiadau – fe wyddon ni’r triciau sydd gan Finn Russell a’i allu i chwarae – ond bydd rhaid inni ganolbwyntio ar y XV, nid ar unigolyn yn unig.”
Er bod Cymru wedi ennill 17 o’r 20 gêm ddiwethaf yn erbyn yr Alban, dydyn nhw ddim wedi ennill yr un gêm oddi cartref eto ers i Wayne Pivac olynu Warren Gatland fel prif hyfforddwr.