Gallai Prydain wynebu ton arall o’r coronafeirws sydd lawn cynddrwg â’r un bresennol os caiff cyfyngiadau’r clo eu codi’n rhy gyflym, yn ôl un o’r gwyddonwyr sy’n cynghori’r llywodraeth.

Mae’r Athro Steven Riley, aelod o’r grwp modelu SPI-M, yn rhybuddio nad yw “llwyddiant anhygoel” y rhaglen frechu yn golygu y gellir rhoi’r gorau i’r rheoliadau.

“Does yr un brechlyn yn berffaith,” meddai wrth siarad ar raglen radio Today y BBC. “Rydym yn sicr am fod mewn sefyllfa lle gallwn ganiatáu mwy o heintio yn y gymuned ond mae pen draw i hyn.

“Mae bron i 20% o boblogaeth Prydain yn 65 oed neu’n hŷn. Os yw’r brechlyn yn dda iawn ond ddim yn berffaith, mae potensial am don arall sylweddol.

“Pe baen ni am ryw reswm yn dewis cymryd arnom nad yw’r coronafeirws yma mwyach, yna mae’r potensial o fynd yn ôl at don sy’n debyg i’r sydd yma’n awr.”

Daw ei rybudd wrth i’r prif weinidog Boris Johnson ddod o dan bwysau cynyddol gan aelodau seneddol ei blaid i lacio’r rheolau.