Mae disgwyl y bydd seneddwyr America yn penderfynu ar dynged Donald Trump heddiw, wrth i’r achos o uchel-gyhuddo’r cyn-arlywydd ddirwyn i ben.
Ar ôl areithiau cloi gan y ddwy ochr, fe fydd aelodau’r Senedd yn pleidleisio a ddylai Donald Trump gael ei ddal yn gyfrifol am annog yr ymosodiad marwol ar adeilad y Capitol y mis diwethaf.
Yn ystod yr wythnos, mae seneddwyr wedi bod yn gwylio areithiau gan Donald Trump yn galw ar ei gefnogwyr i “fight like hell” ar ei ran fel roedd y Gyngres ar fin cadarnhau Joe Biden fel arlywydd.
Fe fu farw pump o bobl yn y cythrwfl y diwrnod hwnnw.
Bydd angen mwyafrif o ddau draean o’r seneddwyr cyn y gall Trump gael ei gollfarnu, ac mae hyn yn annhebygol o ddigwydd gan fod disgwyl i’r mwyafrif o’r Gweriniaethwyr ei gefnogi.
Dyma’r tro cyntaf i achos o uchel-gyhuddo gael ei ddwyn yn erbyn cyn-arlywydd, ac mae’r ddedfryd yn debygol o ddwysau’r rhaniadau yn y wlad.