Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio gwefan newydd i holi barn y cyhoedd ynghylch lleoedd i ddatblygu canolfannau lleol ar gyfer gweithio hyblyg o bell.
Daw hyn yn sgil uchelgais hirdymor ganddi y bydd 30% o weilthlu Cymru yn gweithio gartref neu’n gweithio’n llawer nes at adref.
Ar y wefan mae map lle gall aelodau’r cyhoedd osod ‘pin’ ar leoliad i ddangos lle hoffen nhw weld canolfan gweithio o bell yn cael ei chreu.
Mae’r Llywodraeth eisoes yn buddsoddi £500,000 mewn datblygu chwe safle cydweithio o’r fath yng nghymoedd y de, gyda rhai ohonyn nhw hefyd yn gweithredu fel pyrth darganfod sy’n cynnig gwybodaeth i ymwelwyr.
“Y nod yw creu dewis o ran lleoliadau gweithluoedd y dyfodol yng Nghymru,” meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Threftadaeth, wrth lansio’r wefan.
“Mae’r pandemig wedi dangos nad oes angen i bawb fod yn y swyddfa drwy’r wythnos ac y byddai’n well gan lawer beidio â gwneud hynny. Gan gydnabod nad gweithio gartref yw’r dewis gorau i bawb, rydym am ddatblygu safleoedd gweithio o bell fel dewis arall ymarferol.
“Gall y math hwn o weithio hyblyg helpu pobl a’u cyflogwyr a chryfhau cymunedau lleol.
“Gall hefyd wella’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith i lawer, a lleihau’r amser sy’n cael ei dreulio ar daith hir i’r gwaith a’r difrod amgylcheddol mae hynny’n ei greu.”