Mae Plaid Cymru wedi mabwysiadu addewid ffurfiol i gynnig refferendwm ar annibyniaeth Cymru o fewn tymor cyntaf y Llywodraeth nesaf os bydd yn ennill mwyafrif seneddol yn yr etholiad eleni.

Mewn cynhadledd y blaid ar annibyniaeth heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 13), fe wnaeth aelodau’r blaid gymeradwyo yn ffurfiol yr addewid a wnaed gan eu hrweinydd y llynedd.

Ym mis Rhagfyr, addawodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn amodol ar gymeradwyaeth y blaid, y bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn cynnig refferendwm ar annibyniaeth i Gymru yn ei thymor cyntaf.

Mae’r polisi’n golygu mai Plaid Cymru yw’r unig blaid wleidyddol sy’n cystadlu yn etholiadau Senedd 2021 gydag ymrwymiad i gynnal refferendwm ar annibyniaeth i Gymru o fewn amserlen glir.

Mae hefyd yn gwneud etholiad Senedd 2021 yr etholiad cyntaf erioed yng Nghymru lle mae annibyniaeth a’i amserlen ar y papur pleidleisio.

Gydag Alban annibynnol ac Iwerddon unedig yn “yn fwy tebygol byth”, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, fod pobl Cymru hefyd yn haeddu’r “cyfle i benderfynu”.

“Mae rhywbeth yn digwydd yng Nghymru” – Adam Price

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AoS: “Mae rhywbeth yn digwydd yng Nghymru.

“Dangosodd y ddau arolwg barn ddiwethaf bod cefnogaeth i annibyniaeth ar ei uchaf mewn hanes.

“Mae miloedd bellach wedi ymuno â’r mudiad llawr gwlad dros annibyniaeth, Yes Cymru ac mae dadl arferai fod yn freuddwyd bell nawr wedi symud o’r ymylon i’r brif sgwrs.

“Gydag Alban annibynnol ac Iwerddon unedig yn debygol erbyn diwedd y degawd, mae pobl Cymru yn haeddu cyfle i benderfynu a ydyn nhw hefyd eisiau dyfodol annibynnol.

“Nid ydym am ennill annibyniaeth er mwyn ennill annibyniaeth, ond yn hytrach er mwyn y miloedd o deuluoedd sydd yn dibynnu ar Gymru i ddod yn genedl decach, fwy cyfartal.

“Nid yw hyn yn ornest rhwng “ni a nhw”. Nid yw hyn am un person neu unigolyn. Yr unig ‘hunan’ sy’n bwysig yw hunan-lywodraeth – y gallu i wneud annibyniaeth yn rym er gwell ac i wella bywydau pob un ohonom yng Nghymru.”