Mae Gonzalo Bertranou, mewnwr yr Ariannin, wedi yn ymuno â’r Dreigiau ar gytundeb tymor byr tan ddiwedd y tymor.

Mae wedi ennill 26 o gapiau i’w wlad a daeth i’r cae yn eilydd ym muddugoliaeth hanesyddol yr Ariannin dros Seland Newydd y llynedd.

Roedd hefyd yn rhan o’r tîm a gollodd ddwywaith yn erbyn Cymru ar daith haf 2018 – y tro cyntaf i Gymru ennill taith i’r Ariannin ers 1999.

‘Cyfnod cyffrous’

“Dyma fy nhro cyntaf yn ymweld â Chymru, felly mae’n gyfnod cyffrous iawn i mi,” meddai Gonzalo  Bertranou.

“Mae’n gyfle da i mi brofi fy hun ac rwy’n edrych ymlaen at ddechrau hyfforddi a chwarae gyda’r tîm.”

Ar ôl gohrio gêm y penwythnos diwethaf yn erbyn Caeredin, mae pum gêm Pro14 gan y Dreigiau eto i’w chwarae cyn dechrau’r gystadleuaeth newydd Cwpan yr Enfys.

Mae Dean Ryan, Cyfarwyddwr Rygbi’r Dreigiau, yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at weld yr Archentwr yn cystadlu yn erbyn Rhodri Williams a Tavis Knoyle am le yn y tîm.

“Rydym yn falch bod Gonzalo yn ymuno â ni ac rydym yn gyffrous i weld yr effaith y gall ei wneud yn y rhanbarth,” meddai.

“Bydd Gonzalo yn cynnig ansawdd uchel iawn o chwarae i ni a fydd yn cynyddu cystadleuaeth am lefydd, a bydd ei brofiadau rhyngwladol yn helpu’r garfan ehangach i dyfu.”

Mae’r Dreigiau hefyd wedi cadarnhau bod Ioan Davies wedi ymuno â’r rhanbarth ar fenthyg o Gleision Caerdydd tan ddiwedd y tymor.