Bydd Joss Labadie, capten tîm pêl-droed Casnewydd, yn dychwelyd ar ôl gwaharddiad i groesawu Caerwysg i Rodney Parade yn yr Ail Adran heno (nos Fawrth, Chwefror 16).

Roedd e wedi’i wahardd am dair gêm am gerdyn coch yn y gêm yn erbyn Oldham fis diwethaf.

Ond mae Liam Shephard a Scot Bennett wedi’u gwahardd o hyd.

Serch hynny, dylai Matty Dolan a Kevin Ellison fod ar gael wrth i’r Alltudion geisio taro’n ôl ar ôl y golled o 1-0 gartref yn erbyn Southend.

Cafodd gemau’r ddau dîm eu gohirio dros y penwythnos o ganlyniad i’r tywydd, gyda Chaerwysg hefyd yn mynd am ddyrchafiad.

Bydd Caerwysg heb Sam Stubbs a Randall Williams oherwydd anafiadau, tra bydd Robbie Wilmott allan hefyd ar ôl symud ar fenthyg o Gasnewydd i Gaerwysg fis diwethaf.

Gallai buddugoliaeth i Gaerwysg eu codi uwchben Casnewydd yn y tabl.