Mae Woking, sy’n teithio i Wrecsam yn y Gynghrair Genedlaethol heno (nos Fawrth, Chwefror 16), bum pwynt uwchlaw safleoedd y gwymp ar ôl rhediad o ganlyniadau siomedig.

Mae hyn er eu bod nhw’n chweched yn y tabl ddechrau mis Rhagfyr.

Ond maen nhw wedi colli pump allan o naw gêm gynghrair yn ystod y cyfnod hwnnw, gan ennill un gêm yn unig, a hynny o 3-0 dros Hartlepool.

Mae Wrecsam yn ddi-guro mewn pum gêm yn erbyn Woking, gan ennill y tair ddiwethaf ar y Cae Ras, er i’r ymwelwyr ennill yn 2014 a 2016.

Pe bai’n chwarae, bydd Paul Rutherford yn ymddangos yng ngêm rhif 175 ei yrfa gyda Wrecsam, tra byddai Luke Young hefyd yn chwarae yn ei ganfed gêm gynghrair.