Mae’r canolwr Willis Halaholo wedi llofnodi cytundeb newydd gyda’r Gleision.

Daeth e oddi ar y fainc yn y gêm yn erbyn yr Alban ddyddiau’n unig ar ôl llofnodi’r cytundeb tymor hir.

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd ei fod e’n “falch iawn” o gael llofnodi’r cytundeb a bod Cymru’n “teimlo fel cartref” ac felly roedd y penderfyniad i lofnodi’r cytundeb yn un “syml”.

Fe ddaeth i Gymru ar ôl ennill teitl Super Rugby gyda’r Hurricanes yn Seland Newydd, gan chwarae rhan flaenllaw yng Nghwpan Her Ewrop yn 2018.

Mae e wedi chwarae 76 o weithiau i’r rhanbarth, gan sgorio 15 o geisiau.

Oni bai am anaf i’w ben-glin, fe fyddai wedi chwarae dros Gymru yn 2019.

Y gallu i newid gemau

Mae Dai Young wedi ymateb i’r newyddion, gan ddweud ei fod e’n “cario’n galed, mae ganddo fe draed trydanol ac mae’n amddiffynnwr o safon”.

“Mae e’r math o chwaraewr sy’n rhoi pen tost i’r gwrthwynebwyr oherwydd dydych chi ddim yn gwybod beth mae e’n mynd i’w wneud,” meddai.

“Mae ganddo fe’r ‘x-factor’ yn sicr, ac mae’n bwysig cael y rhai hynny sy’n newid gemau.”

Dywedodd ei fod e “wedi dangos gwir aeddfedrwydd ac arweiniad” wrth chwarae dros Gymru.