Fe fu’n ddiwrnod cymysg i chwaraewyr snwcer o Gymru ym Mhencampwriaeth Snwcer Agored Cymru yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd.

Fe wnaeth Dylan Emery guro Lu Ning o Tsieina o 4-3 yn un o ganlyniadau mawr y dydd, tra bod Mark Williams wedi curo Michael White o 4-1 yn y gêm rhwng y ddau Gymro.

Roedd buddugoliaeth o 4-3 i Ryan Day dros Ian Burns, tra bod Jamie Rhys Clarke wedi cael crasfa o 4-0 gan Oliver Lines, a Jackson Page wedi colli o 4-1 yn erbyn Ricky Walden.

Collodd Duane Jones o 4-3 yn erbyn Jamie Wilson, a chollodd Daniel Wells o 4-3 yn erbyn Ali Carter hefyd.