Mae Mick McCarthy, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, wedi canu clodydd y Cymro Harry Wilson yn dilyn buddugoliaeth ei dîm o 2-0 yn Luton yn y Bencampwriaeth.

Rhwydodd e ar ôl curo’r golwr Simon Sluga o’r tu allan i’r cwrt cosbi ar ôl 52 munud, ac fe ddyblodd Will Vaulks fantais yr Adar Gleision dair munud yn ddiweddarach i ymestyn eu rhediad di-guro i chwe gêm o dan reolaeth McCarthy – rhediad sy’n cynnwys pedair buddugoliaeth o’r bron.

“Doedd hi ddim yn gêm o bêl-droed wnaeth lifo’n arbennig o dda,” meddai’r Gwyddel o Barnsley.

“Wnaethon ni ddim dechrau’r ail hanner yn dda ond fe gafodd Harry rywfaint o le ac fe wnaeth e eu cosbi nhw gyda gôl ryfeddol.

“Doedd fawr o amser rhwng y ddwy gôl ac roedd ganddyn nhw frwydr wedi hynny.”