Dechreuodd tîm pêl-droed Wrecsam eu cyfnod o dan berchnogaeth yr actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney gyda buddugoliaeth o 2-0 dros Woking ar y Cae Ras.

Prin oedd cyfleoedd y naill dîm na’r llall o flaen y gôl yn yr hanner cyntaf ond manteisiodd Wrecsam ar gyfle cyn yr egwyl wrth i Dior Angus roi ei dîm ar y blaen.

Cafodd Dan Jarvis gyfle i ddyblu eu mantais ar ôl awr ond cafodd ei ergyd ei harbed gan Craig Ross.

Ond daeth y gôl rai munudau’n ddiweddarach wrth i Luke Young rwydo o’r smotyn i ymestyn rhediad di-guro Wrecsam i bum gêm yn y gynghrair.