Fe wnaeth tîm pêl-droed Casnewydd orffen yn gyfartal 1-1 â naw dyn Caerwysg yn Rodney Parade.

Bu bron i’r Alltudion golli’r gêm er bod ganddyn nhw fantais o ddau ddyn ychwanegol ar y cae am fwy na hanner y gêm.

Aeth yr ymwelwyr i lawr i ddeg dyn pan gafodd Alex Hartridge ei anfon o’r cae ond fe aethon nhw ar y blaen ar ôl 21 munud gydag ergyd gan Ryan Bowman.

Ond cafodd Bowman ei anfon o’r cae cyn yr egwyl.

Ond fe wnaeth Caerwysg ddal eu tir tan yr 88fed munud, pan unionodd Dominic Telford y sgôr i Gasnewydd â’i ben.