Mae gweithwyr iechyd wedi dechrau derbyn brechlyn coronafeirws yn Japan, yn y gobaith y bydd modd cynnal y Gemau Olympaidd.

Dydy hi ddim yn glir a fydd y rhaglen frechu’n ddigonol i gynnal y Gemau sydd wedi’u gohirio yn sgil y coronafeirws, ac mae pryderon am brinder brechlynnau ac am gyfradd y bobol fydd yn fodlon cael eu brechu oherwydd sgil effeithiau posib.

Mae llywodraeth y wlad wedi cymeradwyo’r brechlyn Pfizer sydd wedi’i ddefnyddio mewn sawl gwlad ers mis Rhagfyr.

Ond roedd oedi wrth i brofion cychwynnol gael eu cynnal a bydd cyfraddau mewnforio’n cael effaith sylweddol ar gyflymdra’r rhaglen frechu.

Mae 40,000 o feddygon a nyrsys o 100 o ysbytai bellach wedi cael eu brechu, a’r gobaith yw y byddan nhw’n cael ail ddos ar Fawrth 10.

Mae gan y wlad ddigon o frechlynnau ar gyfer 40,000 o feddygon a nyrsys ar hyn o bryd.

Bydd 3.7m yn rhagor yn dechrau cael eu brechu fis nesaf, a 36m dros 65 oed fis Ebrill.

Ar ôl hynny, bydd pobol â chyflyrau iechyd a thrigolion a gweithwyr cartrefi gofal yn cael eu brechu ac yna’r cyhoedd yn ehangach.

Gyda gweddill y boblogaeth yn cael eu brechu erbyn mis Mehefin, cael a chael fyddai hi ar gyfer y Gemau Olympaidd, meddai arbenigwyr.

Mae disgwyl i’r Gemau ddechrau ym mis Gorffennaf.