Fydd prop yr Alban Zander Fagerson ddim yn cael cymryd rhan yng ngweddill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ôl cael ei wahardd am bedair wythnos wedi iddo fe gael ei yrru o’r cae yn erbyn Cymru.
Ar ôl iddo ruthro i mewn i ryc a tharo prop Cymru Wyn Jones yn ei ben, cafodd y drosedd ei gweld gan y dyfarnwr fideo.
Bu’n rhaid i’r Alban chwarae gyda 14 dyn am weddill y gêm.
Fe ymddangosodd Fagerson gerbron pwyllgor disgyblu annibynnol ddoe (dydd Mawrth, Chwefror 17).
Derbyniodd ei fod e wedi cyflawni gweithred o chwarae budr, ond doedd e ddim yn cytuno bod y drosedd yn haeddu cerdyn coch.
Canfu’r pwyllgor fod ei weithredoedd yn deilwng o waharddiad chwe wythnos.
Fodd bynnag, oherwydd ei ymddygiad blaenorol, cafodd ei waharddiad ei ostwng i bedair wythnos.
Bydd e’n colli tair gêm olaf yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Ffrainc, Iwerddon a’r Eidal.
Daw hyn union wythnos ar ôl i Peter O’Mahony, blaenasgellwr Iwerddon, gael ei wahardd am dair gêm ar ôl trosedd debyg yn erbyn Cymru ar benwythnos agoriadol y bencampwriaeth.
Mae gan y chwaraewr yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.