Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud mai perfformiad ei dîm yn eu gêm yn erbyn Nottingham Forest yn Stadiwm Liberty heno (nos Fercher, Chwefror 17) sy’n bwysig, ac nid y ffaith y gallai’r gemau sydd ganddyn nhw wrth gefn eu harwain nhw i frig y Bencampwriaeth.
Cafodd eu gêm yn Sheffield Wednesday ei gohirio dros y penwythnos o ganlyniad i’r tywydd a chae oedd wedi rhewi.
Byddai buddugoliaethau yn eu gemau wrth gefn dros dimau fel Norwich a Brentford yn ddigon i’w gweld nhw’n codi i’r brig.
Neges Steve Cooper o hyd yw fod rhaid canolbwyntio ar un gêm ar y tro.
“Dydyn ni ddim yn eistedd yn meddwl am yr hyn sy’n digwydd mewn gemau eraill neu i glybiau eraill,” meddai.
“Mae mwy na digon i ganolbwyntio arno o ran ni ein hunain.
“Fyddwn ni fyth yn cael ein tynnu i mewn i a yw timau eraill wedi colli neu wedi cael gemau cyfartal, fyddwn ni ddim ond yn meddwl am ein perfformiadau a’n canlyniadau ein hunain, oherwydd dyna’r pethau y gallwn ni eu rheoli.
“Yn y pen draw, dyna sy’n eich cael chi i le’r ydych chi’n haeddu bod.
“Mae gyda ni gêm anodd nos Fercher, ac mae 19 o gemau yn weddill.
“Felly mae ein sgyrsiau’n canolbwyntio ar gael y perfformiad gorau a thriphwynt yn y gêm nesaf.”