Mae Jane Hutt, Dirprwy Weinidog a Phrif Chwip Llywodraeth Cymru, wedi diolch i wirfoddolwyr a chynorthwywyr cymunedol ar ‘Ddiwrnod Gweithredoedd Caredig Digymell’.

Dywed eu bod nhw wedi dangos caredigrwydd wrth bobol sydd mewn angen yn ystod y pandemig coronafeirws.

Mae tystiolaeth wyddonol yn dangos bod cyflawni gweithred garedig i helpu rhywun arall yn cael effaith gadarnhaol fawr ar y sawl sy’n helpu, a’r sawl sy’n cael yr help, yn ôl y Gweinidog.

“Codi calon”

“Ledled Cymru, drwy gyfnod y llifogydd a’r pandemig, mae pobl wedi dangos caredigrwydd tuag at y rhai sydd angen help fwyaf,” meddai Jane Hutt.

“Mae’r straeon am garedigrwydd a chymorth yn hyfryd ac yn codi calon rhywun, a’r gwirfoddolwyr sydd wedi rhoi gobaith i’w cymunedau.

“Mae pobl garedig wedi sefyll ar y rhiniog ac ar garreg y drws i sgwrsio â chymdogion a fyddai, fel arall yn treulio dyddiau ac wythnosau ar eu pennau eu hunain.

“Oherwydd eich caredigrwydd a’ch ymdrechion chi, mae awdurdodau lleol, y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wedi gallu canolbwyntio ar ddarparu’r gwasanaethau hanfodol i’r bobl sydd fwyaf agored i niwed.

“Rwyf eisiau diolch i bawb, un ac oll, sydd wedi dangos caredigrwydd wrth bobl yn eich cymunedau, a hynny mewn cynifer o ffyrdd.

“Rydych chi wedi gwneud gwahaniaeth go iawn wrth fod yn ddyfeisgar.”

“Nid yw gwirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser i gael diolch”

“Mae pobl sy’n treulio unrhyw faint o’u hamser yn gwneud pethau dros eraill yn gwneud gwahaniaeth mawr, nid yn unig i’r rheini y maen nhw’n eu helpu, ond i’w llesiant eu hunain hefyd,” meddai Ruth Marks, prif weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

“Nid yw gwirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser i gael diolch – ond mae cydnabod pa mor hanfodol yw caredigrwydd yn neges bwysig i bob un ohonom.”