Gallai dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sydd â’r hawl i aros yng Nghymru ar ôl Brexit barhau i fod o dan fygythiad o gael eu halltudio os nad ydyn nhw’n cael rhagor o amser a chymorth, yn ôl Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Senedd.

Cafodd ymchwiliad ei gynnal i newidiadau posibl i’r rhyddid i symud yn 2019.

Yn yr ymchwiliadau a ddilynodd, clywodd y Pwyllgor fod rhai o’r pryderon a gafodd eu mynegi ar y pryd yn parhau, gyda phroblemau posibl yn sgil y pandemig coronafeirws.

Mae’r problemau hyn yn cynnwys rhwystrau sy’n atal pobol rhag cael y cymorth cywir wrth lenwi’r ffurflen gais i sicrhau Statws Preswylwyr Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, sy’n rhoi’r hawl iddyn nhw fyw a gweithio yn y Deyrnas Unedig.

Cyn y pandemig, roedd nifer o sefydliadau’n rhoi cyngor personol wyneb yn wyneb, ond mae’r cyfyngiadau symud wedi cwtogi’r gwasanaethau hyn, gan arwain at bryderon y gallai rhai pobol gael eu hamddifadu o gymorth.

Gyda Mehefin 30 wedi’i bennu fel dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau, mae’r pwyllgor am i Lywodraeth Cymru barhau ag ymdrechion i gysylltu â dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd.

“O ran beth yn fwy y gall y Llywodraeth ei wneud nawr yn benodol i helpu pobl sydd mewn sefyllfaoedd bregus, rwy’n credu, yn gyntaf, fod yn rhaid cael eglurder o ran ystyr ‘sail resymol’ os nad yw’n bosibl cadw at y dyddiad cau ym mis Mehefin,” meddai Marley Morris o’r Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus.

“Dw i ddim yn credu bod hynny’n hollol glir ar hyn o bryd.”

Dywed fod y pwyllgor wedi gofyn am eglurder gan Swyddfa Gartref y DU ynghylch yr hyn sy’n cyfri fel ‘sail resymol’.

Un pryder yw’r diffyg o ran unrhyw ddogfennaeth ffisegol y gall dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd ei chyflwyno i ddangos bod ganddynt yr hawl i aros yma.

“Mae gan ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd rôl bwysig i’w chwarae yng Nghymru”

“Mae gan ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd rôl bwysig i’w chwarae yng Nghymru, ac maent eisoes yn chwarae rôl bwysig nid yn unig o ran yr economi ond yn ein cymdeithas yn fwy cyffredinol,” meddai David Rees, cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.

“O dan y cytundeb Brexit, mae ganddynt yr hawl i aros yn y Deyrnas Unedig ac mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod croeso iddynt.

“Er nad yw’r cyfrifoldeb dros fewnfudo wedi’i ddatganoli, mae’r Pwyllgor yn pryderu bod y cymorth ardderchog a oedd ar gael cyn y pandemig yn lleihau a bod risg y bydd pobl yn cael eu colli.

“Gyda’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ym mis Mehefin yn agosáu, credwn ei bod yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn dwysau ei hymdrechion i gyrraedd dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd a sicrhau bod pobl sydd ddim o reidrwydd â mynediad at adnoddau digidol fel y rhyngrwyd yn cael yr amser sydd ei angen arnynt i gyflwyno eu ceisiadau.”

Dywed y Pwyllgor eu bod nhw wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a’r Swyddfa Gartref i nodi eu canfyddiadau diweddaraf.