Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi gwrthod cais Cymru a’r Alban i aros yn rhan o gynllun cyfnewid myfyrwyr Erasmus+.

Mae hawl gan fyfyrwyr Gogledd Iwerddon i gymryd rhan yn y cynllun o hyd diolch i gyllid gan Lywodraeth Iwerddon.

Cyhoeddodd Boris Johnson y penderfyniad i beidio â chymryd rhan wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Bu Prydain yn rhan o gynllun Erasmus ers 1987, ac un o’r rhai oedd yn gyfrifol am ddatblygu’r cynllun yn y 1970au a’r 1980au oedd y Cymro, Dr Hywel Ceri Jones.

Llofnododd 145 o aelodau Senedd Ewrop lythyr ym mis Ionawr yn gofyn i’r Comisiwn ganiatáu i’r Alban a Chymru ailymuno.

Ond mewn ymateb iddyn nhw, dywedodd Ursula von der Leyen, Llywydd Comisiwn Ewrop, mai’r unig ffordd i wlad o fewn y Deryrnas Unedig gymryd rhan eto oedd i’r Derynas Unedig gyfan ailymuno ag Erasmus+.

“Yr unig fodd o ail ymuno ag Erasmus+ yw fel y Deyrnas Unedig gyfan, neu ddim o gwbl,” meddai mewn llythyr at aelodau Senedd Ewrop.

“Cynigiodd yr Undeb Ewropeaidd ymrwymiad llawn i’r Deyrnas Unedig fod yn rhan o gynllun Erasmus+ a hynny am gyfraniad ariannol safonol sy’n ddisgwyliedig gan wledydd sydd yn cymryd rhan yn y cynllun.

“Yn dilyn blwyddyn o drafodaethau adeiladol gyda llywodraeth y Deyrnas Unedig, penderfynwyd yn Llundain i beidio ag ymwneud ag Erasmus+.”

Mae Terry Reintke, Aelod o Senedd Ewrop o’r Almaen, yn dweud y bydd aelodau yn trefnu dadl ar y mater yn Senedd Ewrop.

“Byddwn yn parhau i archwilio sut y gallai’r Alban a Chymru aros yn Erasmus+,” meddai ar ei chyfri Twitter.

‘Cynllun gwael iawn’

Mae disgwyl i gynllun tebyg ar raddfa fyd-eang, yn dwyn enw Alan Turing, ddisodli’r cynllun cyfnewid tramor, ond mae Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru, eisoes wedi ei ddisgrifio fel cynllun “gwael iawn”.

“Bydd myfyrwyr yng Nghymru, myfyrwyr addysg uwch, myfyrwyr ysgol, a’r bobol ifanc hynny a gafodd y cyfle i fanteisio ar Erasmus+ drwy sefydliadau ieuenctid, mewn sefyllfa waeth am beidio cael mynediad llawn i Erasmus+,” meddai.

Cydweithio i geisio ailymuno â chynllun Erasmus

“Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr yn yr Alban a Gogledd Iwerddon i weld a allwn gadw’n haelodaeth o Erasmus+,” meddai Kirsty Williams