Mae Llywodraeth Cymru a chwmni Network Rail wedi cadarnhau y bydd yn rhaid cau rhannau o Bont Britannia wrth i waith adnewyddu “hollbwysig’ ddechrau ar dyrau’r bont yfory (dydd Mercher, Chwefror 17).

Wedi’i gynllunio a’i adeiladu gan Robert Stephenson yn 1850, mae’r bont restredig Gradd II yn darparu cysylltiad ffordd a rheilffordd rhwng Ynys Môn â thir mawr Cymru.

Fel rhan o’r gwaith, bydd trawstiau cymorth yn cael eu gosod ar ben y tri thŵr ar hyd y bont – a bydd y bont yn cael ei chau yn llwyr i gerbydau am hyd at 20 munud ar y tro yn ystod y nos.

Er mwyn i’r gwaith gael ei wneud yn ddiogel, bydd un lôn o’r A55 ar gau yn llwyr rhwng 7 o’r gloch y nos a 5 o’r gloch y bore am chwe noson a bydd terfyn cyflymder dros dro o 40m.y.a. ar y bont tra bydd y gwaith yn cael ei gwblhau.

Bydd y cyfyngiadau hyn yn eu lle ar y dyddiadau canlynol.

  • Chwefror 17 a 18 – Sgaffaldiau yn cael eu gosod ar dŵr Ynys Môn
  • Chwefror 22 a 23 – Sgaffaldiau yn cael eu gosod ar dŵr Britannia
  • Chwefror 24 a 25 – Sgaffaldiau yn cael eu gosod ar dŵr Caernarfon

‘Gwaith hollbwysig’

“Mae’r gwaith hwn yn hollbwysig ac rwy’n ddiolchgar i Network Rail ac AmcoGiffen am eu dull sensitif o leihau’r tarfu ar draffig ffyrdd a rheilffyrdd ar draws Pont Britannia,” meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, Trafnidiaeth a gogledd Cymru.

“Bydd yn sicrhau y gall y strwythur adnabyddus barhau i gyflawni ei ddyletswydd o gysylltu Ynys Môn a thir mawr Cymru.”

Ychwanegodd Kevin Collins o Network Rail fod “y bont hon nid yn unig yn gyswllt trafnidiaeth hanfodol ond hefyd yn rhan enwog o dreftadaeth gogledd Cymru a’i thirwedd”. 

“Bydd y gwaith pwysig hwn yn helpu i gadw’r Bont i edrych ar ei orau a pharhau’n weithredol am genedlaethau i ddod,” meddai.