Does “dim rhesymeg” y tu ôl i’r penderfyniad i werthu Tŷ’r Cymry yn y Rhath yng Nghaerdydd, yn ôl Steve Blundell o Gymdeithas yr Iaith.
Mae Tŷ’r Cymry, a oedd yn rhodd gan y ffermwr Lewis Williams o Fro Morgannwg, wedi gweithredu fel canolfan i weithgareddau a sefydliadau Cymraeg yng Nghaerdydd ers 1936, gan hyrwyddo’r iaith a statws cyfansoddiadol i Gymru.
Dros y blynyddoedd, mae Tŷ’r Cymry wedi bod yn gartref i nifer o sefydliadau, gan gynnwys Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, Yr Urdd, Ymgyrch Senedd i Gymru, Plaid Cymru, Mudiad Ysgolion Meithrin, Menter Caerdydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Chymdeithas Tŷ’r Cymry.
“Ar ôl cael gwybod bod yr ymddiriedolwyr yn bwriadu gwerthu’r adeilad, roedd Cymdeithas Yr Iaith eisiau cael trafodaeth, gofyn am fanylion a chael gwybod beth oedd y cynllun,” meddai Steve Bundell wrth golwg360.
“Buom yn anfon negeseuon er mwyn ffeindio pobol oedd â diddordeb cymryd rheolaeth o’r adeilad, a buodd Menter Iaith hefyd yn hysbysu.”
Ac ar ôl dod o hyd i grŵp o bobol leol oedd yn awyddus i gymryd yr awenau, cafodd cyfarfod ei gynnal gydag ymddiriedolwyr y ganolfan er mwyn trafod eu cynllun ar gyfer y safle ar Chwefror 6.
“Roeddwn i’n synnu pa mor dda oedden nhw (y grŵp)… pobol gyda phrofiad ac roedd cynllun wedi cael ei roi at ei gilydd oedd yn cynnwys llorgynlluniau, cefnogaeth rhestr o amryw fudiadau fel darpar bartneriaid a chwsmeriaid,” meddai Steve Bundell wedyn.
“Roedd y cynllun wedi gwneud cais cryf bod potensial ar y tŷ i ddarparu gwasanaeth i’r gymuned, fel yn 1936.”
Ond cael ei wrthod wnaeth y cynllun, gyda’r ymddiriedolwyr yn penderfynu bwrw ymlaen gyda’r cynllun i werthu’r adeilad.
“Yr oll gafon ni oedd e-bost yn dweud eu bod nhw wedi penderfynu mynd ymlaen â’r gwerthu.”
“Dim rhesymeg”
“Doedd dim rhesymeg, dim trafodaeth, sôn am wendidau’r cyflwyniad, na dim byd felly,” meddai wedyn.
“Maen nhw’n dweud bo’ nhw isio cael gwared â’r faich, drwy werthu, ond mae pobol wedi dod ynghyd ac yn awyddus arwain canolfan newydd.
“Dwi’n gwerthfawrogi eu hymdrech dros y degawdau i edrych ar ôl y tŷ, ond dydyn nhw ddim mewn lle i wneud hynna (gwerthu).”
“Osgoi bod yn atebol”
Mae’n dweud bod yr ymddiriedolwyr yn “osgoi bod yn atebol”.
“Yr unig beth dani’n gofyn amdano ydi trafodaeth trylowy cyhoeddus ac archwiliad call i’r opsiynau,” meddai.
“Dydy’r grŵp ddim hyd yn oed wedi cael cyfle i edrych ar grantiau heb sôn am wneud ceisiadau.
“Dw i’n gobeithio y byddan nhw’n gwrando ar reswm a throsglwyddo’r awenau i bobol gydag egni newydd sy’n barod i gymryd y prosiect ymlaen.
“Fel arall, mae’r gymuned yn cael ei amddifadu o wasanaeth Cymraeg cymunedol.”
Mae golwg360 wedi ceisio cysylltu â’r ymddiriedolwyr am sylw.