Mae ffrae wedi codi ynghylch dyfodol canolfan Gymraeg Tŷ’r Cymry yn y Rhath, Caerdydd.
Daw hyn yn sgil penderfyniad pwyllgor y ganolfan i wrthod cynlluniau i’w adfer, gan benderfynu ei werthu.
Mae Tŷ’r Cymry, a oedd yn rhodd gan Lewis Williams, ffermwr o Fro Morgannwg, wedi gweithredu fel canolfan i weithgareddau a sefydliadau Cymraeg yng Nghaerdydd ers 1936, gan hyrwyddo’r iaith a statws cyfansoddiadol i Gymru.
Dros y blynyddoedd, mae Tŷ’r Cymry wedi bod yn gartref i nifer o sefydliadau, gan gynnwys Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, Yr Urdd, Ymgyrch Senedd i Gymru, Plaid Cymru, Mudiad Ysgolion Meithrin, Menter Caerdydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a Chymdeithas Tŷ’r Cymry.
Cynhaliwyd cyfarfod rhwng grŵp o bobol leol a rheolwyr y ganolfan er mwyn trafod dyfodol y ganolfan ddydd Sadwrn (Chwefror 6).
Cyflwynodd y grŵp enwau unigolion sy’n dymuno cymryd yr awenau, a chynnal ac adfer yr adeilad.
Daeth y grŵp i’r casgliad byddai’n costio £150,000 i adfer yr adeilad i gyflwr digonol, a hyd at £300,000 er mwyn gwneud datblygiadau pellach, megis cyfleusterau i bobol anabl.
Ac felly pendefynodd y rheolwyr y byddai’n well gwerthu’r adeilad, gan ystyried sefydlu canolfan newydd ar safle arall yn y brifddinas.
“Methu’n lan â deall”
“Mae’n hynod siomedig bod y rhai sy’n rheoli’r adeilad ar hyn o bryd yn benderfynol o’i werthu. Rydyn ni’n methu’n lan â deall,” meddai Steve Blundell, Cadeirydd Rhanbarth Morgannwg-Gwent Cymdeithas yr Iaith.
“Mae yna grŵp brwdfrydig sydd wedi bod yn cwrdd ers misoedd i ddatblygu cynlluniau i adfer y tŷ, gan wahodd y pwyllgor presennol i ymgysylltu.
“Fe drefnon ni ddigwyddiad cyhoeddus llwyddiannus, ac roedd consensws clir yn y cyfarfod y dylai Tŷ’r Cymry barhau ac y dylai criw newydd gael cyfle i wneud y mwyaf o’i botensial. Siawns y dylen nhw gael cyfle i drio rhoi bywyd newydd i’r lle.”
“Parhau i frwydro”
Ychwanegodd Steve Blundell: “Does dim amheuaeth bod nifer o leoliadau cymdeithasol cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd wedi diflannu dros y blynyddoedd diwethaf.
“Mae gwerth gofod o’r fath yn llawer iawn mwy na’i werth yn nhermau ariannol.
“Fe fyddwn ni’n parhau i frwydro er mwyn diogelu ac adfywio’r adnodd gwerthfawr hwn i’r Gymraeg, yn enwedig un sydd â hanes mor ysbrydoledig.”