Mae arweinwyr iechyd a chymunedol wedi bod yn “rhy araf” wrth ymateb i negeseuon gwrth-frechu sy’n cylchredeg ar gyfryngau cymdeithasol, meddai arweinwyr nyrsio.
Dywedodd y Fonesig Donna Kinnair, prif weithredwr ac ysgrifennydd cyffredinol y Coleg Nyrsio Brenhinol, bod “gofid gwirioneddol” wedi bod o gwmpas rhaglen frechu Covid-19 mewn rhai cymunedau – yn enwedig yn y rhai o gefndiroedd Affricanaidd, Caribïaidd ac Asiaidd.
Ac mae cenedlaethau iau sy’n gweld negeseuon gwrth-frechu ar-lein yn dylanwadu ar lawer o bobol hŷn, meddai.
Pan ofynnwyd iddi a yw negeseuon ffals am frechlynnau sy’n cylchredeg ar gyfryngau cymdeithasol wedi cynyddu yn ystod yr wythnosau diwethaf, dywedodd y Fonesig Donna wrth BBC Breakfast: “Rwy’n credu eu bod wedi bod o gwmpas ers amser maith ac rwy’n credu ein bod ni fel arweinwyr cymunedol neu arweinwyr clinigol wedi bod yn araf i ymateb iddynt.
“Gallaf anfon o leiaf 10 fideo atoch ar fy WhatsApp sydd wedi’u dosbarthu ers tua mis Mawrth diwethaf gyda meddygon a gweithwyr proffesiynol eraill – dydych chi ddim yn gwybod o ble maen nhw wedi dod – ond y cyfan y gallwch ei ddweud amdanyn nhw yw eu bod yn amlwg yn wrth-frechwyr, ac maen nhw’n honni eu bod yn diogelu’r gymuned BAME rhag rhywbeth a fydd yn eu niweidio.
“Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn dylanwadu ar fwy o bobol nag yr ydym efallai’n sylweddoli, ac yn eithaf aml pan fyddaf yn siarad â chymunedau, y bobol ifanc sy’n petruso rhag cymryd y brechlyn a dylanwadu ar y bobol hŷn.
“Dyna pam rydyn ni’n dweud, os oes gennych bryderon amdano, siaradwch â gweithiwr iechyd proffesiynol dibynadwy.”
Angen i Weinidogion fynd i’r afael â’r broblem yn uniongyrchol meddai Andrew RT Davies
Wrth ymateb, dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies: “Mae’r rhesymau dros effaith anghymesur coronafeirws ar gymunedau BAME yn gymhleth ac yn parhau i gael eu harchwilio, ond fel y gwelsom, yn anffodus, mae pobl yn y cymunedau hyn wedi profi lefelau uwch o salwch, tra bod cyfraddau marwolaethau wedi bod yn uwch nag yn y boblogaeth wyn.
“Codais y mater hwn gyda’r gweinidog iechyd fis diwethaf gan fod gennyf bryderon difrifol ynglŷn â rhai adroddiadau ar y nifer sy’n manteisio ar y brechiadau.
“Mae angen i weinidogion fynd i’r afael â’r broblem hon yn uniongyrchol gan ei bod yn hanfodol bod pob cymuned yng Nghymru yn clywed yn uchel ac yn glir y dystiolaeth bod y brechlyn yn ddiogel, ac yn manteisio ar y cynnig o frechiad pan gaiff ei gynnig.”
Monitro’r nifer sy’n gwrthod y brechlyn
Yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru i’r wasg, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, bod Llywodraeth Cymru yn monitro’r nifer sy’n gwrthod cael y brechlyn er mwyn ceisio sicrhau bod cymaint o bobol â phosib yn cael eu brechu.
“Dw i eisiau sicrhau’r cyhoedd bod y brechlynnau yn ddiogel i bob ffydd a phob lleiafrif ethnig.
“Rwyf am fod yn glir i bawb, dydy’r brechlyn ddim yn cynnwys unrhyw gynnyrch porc na ffetws ac mae’n ddiogel i bob cymuned a ffydd ethnig.
“Bydd cael y brechlyn yn helpu i hybu imiwnedd i’r feirws ofnadwy hwn a bydd yn ein helpu i gyfyngu ar ledaeniad yn ein holl gymunedau,” meddai.
“Rydym hefyd yn ystyried a oes angen i ni ei gwneud yn haws i bobol gael gafael ar y brechlyn drwy ddefnyddio mosgiau a mannau addoli eraill fel clinigau, yn enwedig mewn cymunedau Pobol Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, y gwyddom sydd wedi cael eu taro mor galed gan coronafeirws.”