Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi mynegi ei dristwch ar ôl i nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws groesi’r trothwy 5,000.

“Mae’n ddrwg iawn gen i am bob bywyd sydd wedi’i golli, pob teulu sydd wedi cael ei effeithio,” meddai Mr Gething.

“O ddechrau’r pandemig hwn, gwnaethom bwynt o gydnabod nad niferoedd yn unig yw’r rhain – maent yn bobl y mae pobl yn eu caru.”

Dywedodd Mr Gething bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd “camau eithriadol” i amddiffyn pobl rhag Covid-19.

“Er gwaethaf hynny i gyd, gwyddom fod dros 5,000 o bobl wedi colli eu bywydau,” meddai Mr Gething.

“Gallwn fod yn hyderus y byddai mwy o bobl wedi dod i niwed heb y mesurau yr ydym i gyd wedi’u cymryd gyda’n gilydd – a byddai mwy o deuluoedd yn galaru.

“Dyna pam ei bod mor bwysig ein bod ni i gyd yn glynu wrth yr hyn rydyn ni’n ei wneud i helpu i ostwng cyfraddau hyd yn oed ymhellach.”

“Carreg filltir sobreiddiol”

Mewn datganiad, dywedodd Dr Giri Shankar, cyfarwyddwr digwyddiadau ymateb achosion Covid-19 yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, fod Cymru wedi cyrraedd “carreg filltir sobreiddiol”.

“Dyna un bywyd wedi’i golli bob 90 munud ers mis Mawrth y llynedd. 5,000 o deuluoedd yn galaru. Rydym yn cydymdeimlo’n ddiffuant â phawb sydd wedi colli rhywun,” meddai.

Dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, am y garreg filltir: “Mae hyn yn dorcalonnus ac y tu ôl i bob ystadegyn mae teulu ac anwyliaid sydd wedi cael eu cymryd cyn eu hamser.

“Mae’n golled echrydus a thrasig o fywyd ac mae fy meddyliau a’m cydymdeimlad yn parhau i fod gyda’r teuluoedd mewn cyfnod anodd iawn i’n gwlad, ac sy’n debygol o barhau dros yr wythnosau i ddod.

“Mae’n siŵr y bydd amser i fyfyrio’n ddifrifol mewn ymchwiliad yn y dyfodol ond rhaid parhau i roi blaenoriaeth ar hyn o bryd i gyflwyno’r brechlyn.”

“Cynllun brechu yn parhau i fynd o nerth i nerth”

Fodd bynnag, “mae’r cynllun brechu yn parhau i fynd o nerth i nerth”, meddai’r Gweinidog Iechyd yn ddiweddarach yn y gynhadledd.

Mae canran uwch o bobol bellach wedi eu brechu yng Nghymru na gweddill gwledydd Prydain, meddai Vaughan Gething.

“Heddiw, ar ôl ymdrech anhygoel gan ein timau ar draws Cymru mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod bron i 604,000 o bobol bellach wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn.

“Rydym nawr wedi brechu canran uwch o’r boblogaeth nag unman arall yn y Deyrnas Unedig, ond fel rydym wedi dweud dro ar ôl tro nid ras yw hon rhwng y pedair gwlad nag ras yn erbyn y Llywodraethau ond ras yn erbyn y feirws.”

Erbyn canol mis Chwefror mae Vaughan Gething yn ffyddiog bydd pawb yn y pedwar grŵp blaenoriaeth uchaf wedi cael cynnig brechlyn.

Dydd Gwener a dydd Sadwrn cafodd 1% o boblogaeth Cymru ei brechu pob dydd.

Amrywolion

Gallai Llywodraeth Cymru gymryd camau pellach ar ôl i 13 achos o amrywiolyn De Affrica gael eu nodi yn y wlad, meddai Vaughan Gething.

“Rydym yn dal i ymchwilio i’r achosion hynny, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymgymryd â’r gwaith hwnnw gyda’r unigolion a’u cysylltiadau,” meddai Mr Gething.

“Wrth i ni weithio drwy hynny, rydym yn ceisio sicrhau bod y bobl hynny’n cael eu profi a’u cefnogi i ynysu a gwneud y peth iawn.

“Pan fydd gennym ddiweddariad pellach am yr achosion hynny, byddwn wrth gwrs yn sicrhau bod hynny ar gael, mae llawer o ddiddordeb cyhoeddus yn hyn, rwy’n deall hynny, ond o fewn yr achosion rydym yn adrodd – mae’r 13 achos hynny yn nifer fach iawn.

“Y straen amlycaf o hyd yw’r amrywiolyn Caint, sy’n heintus iawn, ac rydym yn gwneud cynnydd i leihau achosion – er [mai’r amrywiolyn hwnnw] sy’n dominyddu ledled Cymru.

“Nid yw hynny’n golygu ein bod yn llaesu dwylo o ran amrywiolyn De Affrica, rydym yn dal i wylio ac edrych yn ofalus iawn am yr hyn sy’n digwydd ac mae gennym fesurau pellach y gallai fod angen i ni eu cymryd ac os byddwn yn gwneud hynny, byddwn yn gwbl agored yn eu cylch.”

Cyfraddau yn parhau i ostwng

Bellach mae oddeutu 115 achos fesul 100,000 o bobl yng Nghymru.

“Mae hyn yn parhau yn uchel ond yn llawer iawn is na’r cyfraddau uchel cyn y Nadolig pan roedd y gyfradd yn 650 achos ymhob 100,000 yng Nghymru ac roedd cyfradd y profion positif yn fwy na 25%”, meddai Vaughan Gething.

Rhybuddiodd y Gweinidog Iechyd fod y “darlun yn un amrywiol” ledled y wlad.

“Mae cyfraddau Wrecsam yn 220 achos ymhob 100,000, ond yn gostwng.

“Yng Ngheredigion mae’r gyfradd wedi codi yn ystod y saith diwrnod diwethaf i 56 ymhob 100,000.”

Mae cyfradd achosion o brofion positif hefyd yn gostwng – 10% o’r rhai sy’n cael eu profi sy’n bositif bellach.

Mae’r rhif R hefyd wedi disgyn yn is nag un – rhwng 0.7 a 0.9 yng Nghymru.

Mae nifer y bobol mewn ysbytai sydd â Covid-19 hefyd ar ei isaf ers 8 Tachwedd.