Mae disgwyl i gampfeydd, canolfannau hamdden a phyllau nofio gael eu blaenoriaethu a bod ymhlith y cyfleusterau cymunedol cyntaf i ail-agor, wedi’r cyfnod clo.

Daw hynny, wedi i’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan ddatgan yng nghynadledd Llywodraeth Cymru i’r wasg yr wythnos ddiwethaf eu bod wedi bod yn “gyndyn iawn” i’w cau ac yn awyddus i’w hagor cyn gynted a bod modd.

Er hynny, roeddent ymhlith yr olaf i ailagor yn dilyn y clo mawr y llynedd.

Ym marn sawl person, byddai cau campfeydd am gyfnod hirach nag sydd rhaid yn cael effaith niweidiol ar eu hiechyd corfforol a’u lles meddyliol. 

“Dyna’r peth gwaethaf am y lockdown”

Cyn y pandemig, un person oedd yn “byw a bod” yn y gampfa oedd Steff Rees o Aberystwyth sy’n teimlo mai… “y peth gwaethaf am y lockdown... yw bod y gym ar gau.

“Dwi’n cofio’r amser pan nath y lockdown yma ddechrau a theimlo ar goll,” meddai, “mae o’n rhoi routine i’ch bywyd chi.

“Mae’n ffordd neis o de-stressio o’r gwaith ac anghofio am bopeth ac mae’n rhoi rhyw fath o feel-good factor a chi jest yn teimlo’n well ar ôl bod.”

Er bod astudiaeth ddiweddar wedi canfod bod cynnydd yn niferoedd y bobl sy’n ymarfer corff tu allan, dywedodd Steff Rees bod misoedd oer y gaeaf wedi cyflwyno rhai heriau.

“Maen nhw’n dweud gallwch chi fynd i ymarfer corff tu allan,” meddai, “ond mae hi wedi bod ym mis Rhagfyr eithaf oer ac yn amlwg, mae hi’n tywyllu mor gynnar hefyd – felly dydi hynny ddim yn gwneud ymarfer corff tu allan yn hawdd iawn.”

Dywedodd ei fod o’r farn bod modd ailagor campfeydd mewn modd sy’n ddiogel drwy ddilyn canllawiau iechyd a diogelwch pendant.

“Mae lot o bobl yn dibynnu ar fynd i’r gym”

“Mae’n insane sut mae work out da yn gallu gwneud i chdi deimlo,” meddai Lisa Francis, sy’n aelod o R Health Fit ym Mangor.

“Mae o wedi helpu fi gymaint o ran y ffordd dwi’n meddwl amdanaf i fy hun… a hefyd ti’n gwneud ffrindiau.”

“Dwi’n teimlo dros y pubs a’r rhai sydd ddim yn cael agor,” meddai, “ond mewn gym – ti’n sobor – ti yna am fod chdi isio cadw’n ffit ac mae pawb am ddilyn y rheolau.

“Felly i fi yn bersonol – ar ôl ysgolion – dylai gyms fod at the top of the list i ailagor.”

“Dwi’n teimlo dros y bobl hyn”

“Ella bod o ddim yn big deal i rai pobol ond os wyt ti’n berson sy’n mynd i gym yn aml, mae’n anodd,” meddai Jamie McDaid, o Gaernarfon, sy’n ymwelydd cyson a’r gampfa a hefyd yn gweithio fel Swyddog Byw’n Iach yn Arfon.

“Dwi’n cael gymaint o negeseuon bob wythnos yn gofyn pryd mae’r gym yn ailagor a fod pobol yn methu bob dim sy’n mynd ymlaen.

“Mae pawb yn teimlo bod o’n anodd cael routine ond mae’n rhaid i ni adaptio

“Barn bersonol fi ydi bod y gym yn lle i bobl fynd i gyrraedd eu goals – gweithio ar chdi dy hun heb unrhyw distractions a dim competition – dim ond i neud yn well na be odda chdi’n neud y diwrnod cynt.

Eglurai ei fod yn cynnal sesiynau Zoom drwy ei waith ond ei fod yn pryderu dros y rhai sydd ddim bob amser yn gallu mynychu.

“Dwi’n teimlo dros y bobl hŷn sydd fel arfer yn dod i’r sesiynau,” meddai, “er bod hyn yn cadw nhw’n saff – oedden nhw’n edrych ymlaen gymaint i gael dod i’r sesiynau yn y ganolfan.

“Gobeithio bydd y gyms yn agor yn ôl yn fuan – mewn ffordd sy’n saff i bawb.”

18% o Gymry yn rhedeg yn ystod y cyfnod clo

“Fy nghyngor i yw dechrau’n araf a bod yn garedig â chi’ch hun – byddwch chi’n synnu at yr hyn y gallwch chi ei wneud” medd arweinydd Rhedeg Cymru Môn