Mae gêm y Dreigiau yn erbyn Caeredin, oedd i fod i gael ei chwarae nos Wener, wedi ei gohirio.

Mewn datganiad dywedodd y rhanbarth nad oedd dewis ond gohirio’r gêm Pro14 gan fod y cae wedi rhewi.

Gan ystyried trefniadau diogelwch, teithio o Gaeredin, a’r rhagolygon tywydd doedd dim dewis ond gohirio.

Bydd y Pro14 yn cyhoeddi dyddiad newydd cyn gynted â phosibl.

Dyma’r gêm ddiweddaraf i gael ei gohirio yn y Pro14, y llynedd bu rhaid i’r Dreigiau ohirio tair gêm a chau’r rhanbarth yn llwyr am bythefnos oherwydd Covid-19.