Mae Cyngor Sir Gwynedd wedi gwneud tro pedol ar newid y cyfnod ymgynghori ar y cynnig i gau Ysgol Gynradd Abersoch.

Daw hyn yn dilyn cwyn gan Gymdeithas yr Iaith ei bod yn “annheg” cynnal ymgynghoriad tra bo’r ysgol ar gau.

Cyhuddwyd Cyngor Gwynedd wythnos diwethaf o dorri’r Côd Trefniadaeth Ysgolion gan beidio rhoi amser digonol i ymgynghoriad ar gau’r ysgol.

Daw penderfyniad y Cyngor wedi i’r ymgynghoriad gael ei gyflwyno yn wreiddiol cyn i’r Gweinidog Addysg ddefnyddio pwerau argyfwng i ddiwygio Cod Trefniadaeth Ysgolion.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau fod penderfyniad y Gweinidog i wneud y newid yn anghyfreithlon, ond mae Cadeirydd y Gymdeithas wedi cadarnhau na fyddant yn cymryd camau cyfreithiol.

Yn dilyn penderfyniad y Gweinidog Addysg mae Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd wedi dechrau cyfnod ymgynghori am ddyfodol Ysgol Mynydd-y-Garreg ger Cydweli.

‘Annheg’

“Mae ymgynghori ar ddyfodol ysgolion fel Abersoch a Mynydd-y-Garreg tra bo ysgolion ar gau o ganlyniad i argyfwng iechyd yn gwbl annheg, ac yn bryder a baich ychwanegol ar rieni, llywodraethwyr a’r plant eu hunain,” meddai Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol.

Fodd bynnag mae Cymdeithas yr Iaith wedi penderfynu peidio â dechrau achos cyfreithiol – a hynny gan y gallai’r cyfnod cau ysgolion fod drosodd cyn unrhyw benderfyniad cyfreithiol.

“Dy’n ni ddim am ychwanegu at yr ansicrwydd. Felly gofynnwn yn hytrach, yn enw cyfiawnder, i’r Awdurdodau Lleol, wrth ystyried casgliadau ymgynghoriadau, gymryd i ystyriaeth y ffaith fod cyfle plant, rhieni a’r cymunedau wedi bod yn gyfyngedig.

“Mae’r ods yn cael eu pentyrru’n erbyn y cymunedau pentrefol hyn, a galwn ar bawb i’w cefnogi.”

Ffrae am addasu’r Côd Trefniadaeth Ysgolion dros dro

Daw hyn wedi cyhuddiad o dorri’r Côd gan beidio rhoi amser digonol i ymgynghoriad ar gau Ysgol Abersoch