Bydd arbenigwyr yn trafod diogelwch safleoedd fu gynt yn byllau glo mewn uwchgynhadledd diogelu tomenni glo, flwyddyn union ers i storm Dennis achosi llifogydd a thirlithriad yn Tylorstown yn y Rhondda fis Chwefror y llynedd.
Fis Mehefin y llynedd, dechreuodd y gwaith o glirio 60,000 tunnell o rwbel yno, ac fe gafodd tomenni eraill eu mapio a’u hasesu.
Mae dros 2,000 o domenni glo yng Nghymru, ac mae 294 o’r rheiny yn cael eu hystyried yn rhai “risg uchel” allai achosi perygl i bobol neu eiddo.
Bydd gweinidogion Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Unedig, awdurdodau lleol, yr Awdurdod Glo a Chyfoeth Naturiol Cymru yn rhan o’r Uwchgynhadledd a fydd yn cael ei gynnal ar-lein.
Fis Awst y llynedd, dywedodd y prif weinidog Mark Drakeford fod y cydweithio rhwng yr awdurdodau gwahanol ochr yn ochr â Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig “wedi bod yn rhagorol.”
Mae’r tomenni glo risg uchel i gyd yn y cymoedd:
- 70 yn Sir Caerffili
- 64 yn Rhondda Cynon Taf
- 59 ym Merthyr Tudful
- 42 ym Mhen-y-bont ar Ogwr
- 35 yng Nghastell-nedd Port Talbot
- 16 yn Sir Gaerfyrddin
- 8 yn Sir Abertawe
Mae’r awdurdod glo yn dweud bod angen archwilio’r tomenni hyn yn rheolaidd a sicrhau nad oes dŵr yn llifo iddyn nhw, ac y dylai’r gwaith yma gael ei gwblhau o leiaf ddwywaith y flwyddyn.
Bydd yr uwchgynhadledd hefyd yn ystyried diogelwch gweddillion eraill y diwydiant glo, gan gynnwys gweithfeydd dan ddaear achosodd lifogydd yn ardal Sgiwen fis diwethaf.
Roedd tirlithriad arall yn Aberllechau yng Nghwm Rhondda fis Rhagfyr y llynedd, wedi i law trwm syrthio yn yr ardal.
Yn fwy diweddar, mae rhai o drigolion Sgiwen wedi gorfod gadael eu cartrefi am o leiaf chwe mis.
Mark Drakeford yn galw uwch-gynhadledd ar ddiogelwch tomenni glo ynghyd
Diogelu tomenni glo: “cymaint o ddyletswydd ar Lywodraeth Prydain ag sydd ar Lywodraeth Cymru”
Uwchgynhadledd Tomenni Glo wedi cyfarfod i ddiogelu cymunedau Rhondda Cynon Taf